Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-2 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Jamal LoweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Jamal Lowe ddwywaith ddydd Sadwrn i ddyblu ei gyfanswm goliau i'r clwb

Mae Abertawe wedi dringo i'r ail safle yn y Bencampwriaeth wrth i ddwy gôl Jamal Lowe sicrhau buddugoliaeth yn y gêm ddarbi yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Sgoriodd Lowe gyda foli o bellter agos ar ôl chwe munud wrth i'r ymwelwyr reoli'r gêm.

Yn yr ail hanner, bu'n rhaid i ymosodwr Cymru a'r Adar Gleision, Kieffer Moore adael y cae gydag anaf.

Ac fe aeth pethau o ddrwg i waeth pan gafodd chwaraewr canol cae Caerdydd, Joe Ralls, ei anfon i ffwrdd ar ôl derbyn ail gerdyn melyn am dacl ar Korey Smith.

Yna rhoddodd Lowe y canlyniad y tu hwnt i amheuaeth gydag ail gôl wych.

Mae tîm Steve Cooper yn symud i fyny i'r ail safle yn nhabl y Bencampwriaeth - o leiaf tan i weddill y gemau ddydd Sadwrn gychwyn am 15:00 - tra bod Caerdydd yn aros yn nawfed, pedwar pwynt o'r safleoedd ail gyfle.