Cynnydd mewn galw am hyfforddiant dysgu awyr agored

  • Cyhoeddwyd
Paentio mwd

Mae mwy o blant yn cael eu dysgu yn yr awyr agored wrth i ysgolion barhau i addasu yn ystod pandemig Covid-19.

Roedd y Senedd wedi argymell y gallai addysgu y tu allan i'r dosbarth fod yn hollbwysig wrth leihau'r risg o drosglwyddo'r haint.

Ers hynny, mae nifer y cofrestriadau am gyrsiau proffesiynol yn y maes wedi cynyddu chwe gwaith drosodd.

Cafodd 400 o addysgwyr eu hyfforddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym misoedd Hydref a Tachwedd yn unig.

Mae CNC yn gefnogol o'r syniad, gan ddweud bod mynd allan i ddysgu yn cyfrannu at wella iechyd a lles disgyblion.

Llynedd, cafodd canllawiau i athrawon ar gyfer dysgu yn yr awyr agored eu lansio, gyda'r bwriad o sicrhau bod yr awyr agored yn "rhan annatod" o addysg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa, chwith, yn gweld buddion o gyflwyno plant ifanc i'r awyr agored

Un sy'n dweud iddi weld y budd o ddysgu plant y tu allan ydy Lisa Jones, arweinydd Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel, ger Y Bala.

I blant ifanc, mae'n "ffordd wych o ennyn diddordeb plant", meddai.

O gelf a chrefft gyda dail, i helfa drysor yn defnyddio sgiliau llythrennedd a rhifedd, mae'n dweud bod plant "wrth eu boddau".

"Byddwn i wir yn annog grwpiau cyn-ysgol eraill i roi cynnig ar ddysgu yn yr awyr agored.

"Mae cyflwyno plant i'r byd naturiol yn ifanc yn eu rhoi mewn sefyllfa dda i ddod yn amgylcheddol gyfrifol yn y dyfodol."

Mae'r cynnydd yn y galw gan athrawon sydd eisiau "cofleidio'r manteision" sydd ar gael yn "addawol iawn", meddai Sue Williams o CNC.

Dywedodd Ms Williams, sy'n gynghorydd arbenigol arweiniol i CNC: "Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae dysgu yn yr awyr agored yn chwarae rhan enfawr wrth ennyn diddordeb dysgwyr a chefnogi iechyd a lles cadarnhaol iddyn nhw a'u hathrawon."

Ychwanegodd bod "dysgu yn yr amgylchedd naturiol, dysgu amdano ac ar ei gyfer yn helpu dysgwyr o bob oed i ddatblygu cysylltiad cryfach â natur".

"Mae hyn, yn ei dro, yn gwella ymwybyddiaeth amgylcheddol sy'n arwain at ymddygiad cadarnhaol yn y tymor hir."

Pynciau cysylltiedig