Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-2 Birmingham City
- Cyhoeddwyd
Sgoriodd Sean Morrison gyda pheniad yn y funud olaf wrth i Gaerdydd frwydro yn ôl i drechu Birmingham yn y Bencampwriaeth.
Roedd Robert Glatzel wedi rhoi Caerdydd ar y blaen yn gynnar yn y gêm ond fe ddaeth Marc Roberts â'r ymwelwyr yn gyfartal.
Rhwydodd Sanchez i roi Birmingham ar y blaen cyn i gic o'r smotyn gan Glatzel gael ei arbed gan gyn-golwr Caerdydd, Neil Etheridge.
Unionwyd y sgôr gan Harry Wilson cyn i gôl Morrison sicrhau'r pwyntiau llawn i dîm Neil Harris, oedd wedi colli gartref yn erbyn Abertawe brynhawn Sadwrn.
Mae Caerdydd yn codi i'r 10fed safle yn y Bencampwriaeth.