Sut Nadolig fydd hi i arwyr y GIG?
- Cyhoeddwyd
Ar Ddiwrnod yr Arwyr ym mis Mai eleni bu BBC Cymru'n dathlu gwaith a chyfraniad ein gweithwyr allweddol yng Nghymru yn ystod cyfnod coronafeirws.
Ar ddiwedd 2020 mae'r gweithwyr hynny dal ar y rheng flaen ac erbyn hyn yng nghanol ail don y pandemig ac hynny yn y gaeaf gyda'r Nadolig ar y gweill.
Sut ŵyl fydd hi yn ysbytai Cymru? Bu Cymru Fyw'n siarad gyda nyrs yn Ysbyty Gwynedd a meddyg yn Ysbyty Felindre i ddarganfod mwy am beth sydd o'u blaenau.
Mae Erin Bryfdir yn nyrs yn yr uned argyfwng yn Ysbyty Gwynedd.
Y cyfnod gwaethaf
Mae'r niferoedd gyda Covid yn cynyddu ond 'da ni'n gwybod dipyn bach mwy am y Covid 'ma rŵan a 'da ni'n hapus fod y vaccine yn dod allan.
'Da ni'n gofidio fod 'na ddim digon o staff mwy na dim byd - dim digon o nyrsys na doctoriaid, dim digon o pharmacists, dim digon o neb. Does dim digon ohono ni.
Mae gen ti dipyn o staff yn mynd off yn sâl sy'n gadael ni'n shortstaffed. Mae o'n anodd.
Y pryder mwyaf ydy'r capasiti yn yr ysbytai a'r drwg efo'r diffyg capasiti yw bod nhw'n divertio cleifion o'u hardal nhw i'r ysbyty agosa'.
Wrth gwrs mae'r ysbyty yn yr ardal arall dal yn cael cymaint o argyfyngau.
Ac mae'r ambiwlansys yn ciwio tu allan achos does dim lle a dydy'r ambiwlansys hynny ddim yn gallu ateb y galwadau newydd sy'n dod i fewn.
Mae'r straen ar y system yn anfarwol.
'Da ni'n mynd drwy PPE yn eitha' cyflym ond dw i'n ffyddiog iawn fod yr NHS yn paratoi a sicrhau fod gynno ni ddigon o hynny.
Cyfnod ffliw
Mae'r ffliw yn dechrau rŵan ac mae lot o'r henoed yn dod i mewn, mae'r tywydd oer 'ma yn effeithio ar yr ysgyfaint ac mae pobl asthmatic yn cael hi'n ddrwg. 'Da ni wedi paratoi ar gyfer yr adeg ffliw gan sicrhau fod y staff 'di bod yn cael y vaccine ffliw.
'Da ni'n cael lot o bobl yn dod nôl gyda'r sgil effeithiau maen nhw wedi cael ar ôl cael Covid - y blinder mawr a'r colli pwysau, methu cerdded yn bell... mae'n gadael scarring mawr ar yr ysgyfaint.
Ward plant
Dw i'n gweithio yn yr uned argyfwng ac ar ward y plant. Mae dipyn o blant bach yn dod mewn efo'r tywydd oer yma efo croup a bronchitis.
Mae achosion Covid yn dod i fewn ac mae'r adran frys wedi rhannu'n ddau ran - yr adran wyrdd a'r adran goch.
Os ydyn nhw'n ticio un o symptomau Covid maen nhw'n gorfod dod trwy fynedfa yr adran goch ac yn cael eu nyrsio mewn ciwbicl.
Mae ward Covid yn Ysbyty Gwynedd a wedyn os 'da ni'n credu taw Covid yw'r claf, mae'r doctor Covid yn trin nhw.
Mae'n frawychus i blant bach i dyfu fyny mewn cyfnod mor wahanol - gweld rhieni ac athrawon yn gwisgo masgiau.
Rhan fwya' o'r amser maen nhw mor sâl ar y ward dydy nhw ddim yn cymryd llawer o sylw. Beth sy'n anodd, yn enwedig efo plant a henoed, yw dydy nhw ddim yn gweld siâp ceg a dydy nhw ddim yn deall beth wyt ti'n trio dweud.
Top y pyramid ydy cyfathrebu ac mae gwisgo'r masgiau 'ma wedi peri problem a phryder.
Cyfnod clo
I ddechrau dw i'n meddwl fod pawb 'di dychryn [gan Covid] a fod y damweiniau gwirion oedd yn dod i fewn i'r ward dwys ddim yn dod i fewn, ond rŵan mae'n back to normal - mae'r wardiau brys i gyd yn llawn drwy'r dydd a drwy'r nos.
Ac mae'r diffyg gofal cymdeithasol allan yna - mae'r cartrefi gofal yn llawn ac mae'r henoed sy'n gwynebu lot mwy o risg yn dal Covid a niwmonia ac infections eraill achos does dim lle yn y gymuned iddyn nhw.
Mae'n broblem fawr ym mhob man.
Mae 'na alw mawr am social care yn y gymuned. Mae'r gofal cymdeithasol yn stryglo yr un faint â'r gofal iechyd.
Ysbryd yr ŵyl
Mae wedi newid pethau - mae'r ffordd 'da ni'n defnyddio PPE a'r precautions yn hollol wahanol - ac eleni cawn ni ddim coeden Nadolig oherwydd Covid.
Ond 'da ni'n trio bod mor positif a 'da ni'n gallu. 'Da ni yn trio cael naws positif a pawb yn helpu ei gilydd trwy'r cyfnod.
Mae cyfnod gaeaf yn anodd i bob un ysbyty a trwy'r pandemig, mae'n ddwbl. Nid yn unig ti'n delio efo Covid ond mae symptomau ffliw yn debyg iawn i symptomau Covid a bydd hynny'n frwydr i ni eleni fel gwasanaeth iechyd.
Newid byd
Mae'n anodd credu bod y flwyddyn pandemig wedi mynd - mae'n anodd credu bod ni wedi byw mewn ffasiwn gyfnod.
Y ffordd dw i'n ymdopi ydy sicrhau fod ti'n 'neud beth ti'n gorfod 'neud yn y gwaith yn iawn ac yn saff. Ac os ti ddim yn gwybod beth i 'neud, bod ti'n gofyn i aelod o staff am help.
Sut dw i'n ymlacio ar y diwrnodau off yw mynd am dro. 'Da ni'n lwcus iawn yn Eryri fod gynnon ni fynyddoedd ar stepen drws a dyna sut dw i'n ymdopi.
Cyngor
Pawb i gadw i'r canllawiau. 'Da ni wedi dod mor bell a pawb i gario mlaen a gobeithio cawn ni weld haul ar fryn.
Mae Mared Meredydd Roberts yn feddyg yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd.
Diogelu'r bregus
Dw i'n gweithio mewn uned ganser yn Ysbyty Felindre - yn ystod y wave cyntaf o Covid-19 'nath pob triniaeth chemotherapi ac immunotherapi gael ei stopio felly mae Felindre dan lot o bwysau ar hyn o bryd i ddal fyny efo'r cleifion oedd wedi methu chemotherapi ac unrhyw fath o driniaeth.
Ni'n ysbyty werdd - os oes unrhyw glaf isho dod mewn i'r ysbyty maen nhw'n gorfod cael swab Covid negatif.
Ond mae 'na outbreak ar y funud - mae 'na rhyw dri claf wedi profi'n positif am Covid ac maen nhw wedi bod mewn ers amser hir felly maen nhw wedi dal o yn yr ysbyty yn anffodus. S'neb o'r staff wedi bod yn sâl.
Mae'n effeithio arno ni fel 'na. Munud mae rhywun yn dod yn positif maen nhw'n gorfod gadael Felindre, sy'n drist.
Mae Felindre 'di cau i unrhyw patients newydd achos bod y tri claf 'ma yn positif, sydd ddim yn swnio fel dim byd i gymharu efo'r niferoedd mewn ysbytai eraill ond 'da ni'n gorfod bod mor ofalus er mwyn diogelu'r rhai bregus.
'Da ni'n cael vaccines Covid yn cychwyn cyn Nadolig. Mae hwnna'n neud fi deimlo lot mwy cyfforddus yn mynd adre dros y Dolig. Ac wedyn 'da ni'n cael yr ail un yn Ionawr.
Yr heriau
Yr her ydy trio cadw'r ysbyty mor wyrdd â sy'n bosib. Yn amlwg mae'r cleifion sy'n cael chemotherapi - os maen nhw'n dal Covid mae'n 'neud ti boeni'n ofnadwy so mae'n rhaid ni fod yn ofalus iawn.
Mae gyda ni lot o patients sy' heb celloedd gwyn y gwaed i ladd unrhyw afiechyd - mae meddwl amdanyn nhw'n cael Covid yn hunllefus.
Newidiadau mawr
Mae gwaith yn hollol wahanol.
'Da ni'n gwisgo PPE o hyd - mae'n rili rhyfedd, 'da ni wedi arfer. Mae'n ail natur i ni rŵan bod ni'n gwisgo PPE trwy'r dydd bob dydd. 'Da ni'n trafod sut beth fydd o pan fydd pethau'n dechrau dod nôl i normal.
Fydd pethe lot gwell efo'r vaccine a bydd o'n ddiddorol gweld beth fydd y newidiadau efo'r ffaith bod ni'n cael vaccine. Mae'n siŵr fyddwn ni'n teimlo lot mwy gyfforddus os fyddwn ni'n gweld claf efo Covid.
Dyma fy nhrydydd blwyddyn yn gweithio fel meddyg - mae gwaith wedi newid. Un o'r pethau dw i wedi dysgu mwyaf ydy fod cyfathrebu efo'n gilydd yn hollbwysig. Efo'r ffaith fod teuluoedd ddim yn gallu dod mewn i weld y cleifion, mae jyst galwad ffôn i roi gwybod be' sy'n mynd ymlaen yn golygu cymaint.
Hunan-ofal
Y pwysigrwydd o ofalu ar ôl dy hun a gwneud yn siŵr bod ti'n iawn o ran iechyd meddwl dy hun a bod ti'n teimlo'n saff. Dw i'n tueddu i drafod yr holl bethau sy'n boen arno fi efo staff yn gwaith a teulu, a trio ymlacio a trio anghofio am waith.
Y pwysigrwydd o fod yn glên efo pobl eraill - 'dan ni dan cymaint o straen ac mae'n sefyllfa mor anodd, mae'n bwysig i beidio cymryd o allan ar bobl eraill.
Cyd-dynnu fel tîm
Mae 'na lot fwy o drafodaeth ac mae lot llai o'r hierarchy achos mae'r sefyllfa Covid yn hollol newydd. Mae gan bawb rôl i'w chwarae ac mae pawb yr un mor bwysig â'i gilydd.
Mae hynny'n rhywbeth sy' 'di dod mwy a mwy pwysig yn ystod y pandemig.
Efallai o ddiddordeb