Y Bencampwriaeth: Norwich 2-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Norwich yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Norwich yn dathlu gôl agoriadol Emiliano Buendia (chwith), ei bumed mewn saith gêm

Mae arweinwyr y bencampwriaeth Norwich City wedi cofnodi eu pumed fuddugoliaeth yn olynol wrth iddyn nhw drechu Caerdydd yn Carrow Road.

Taniodd Emiliano Buendia y bêl i gefn y rhwyd i roi'r tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Buan wedi hynny fe wnaeth Michael McGovern arbediad un llaw gan rwystro capten yr Adar Gleision, Sean Morrison, rhag unioni'r sgôr.

Ac er i Norwich fethu a chwblhau sawl cyfle fe lwyddodd Todd Cantwell i sicrhau'r pwyntiau llawn gydag ymdrech ffyrnig o ymyl y cwrt cosbi.

Mae buddugoliaeth yn mynd a thîm Daniel Farke chwe phwynt yn glir ar frig tabl y Bencampwriaeth, tra bod Caerdydd yn parhau i fod yn 10fed safle.

Pynciau cysylltiedig