Teyrnged i dad ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 22 oed o Fangor a fu farw mewn gwrthdrawiad ddydd Gwener.
Mewn teyrnged dywedodd teulu Rowan Jones eu bod yn dal mewn sioc ar ôl y newyddion.
"Roedd Rowan yn byw ar gyfer ei deulu. Roedd wedi ymroi yn llwyr i'w bartner April ac yn dad balch a chariadus i'w fab Osian, 20 mis oed," meddai'r datganiad.
"Mae meddwl am Osian yn tyfu fyny heb dad ffantastig, anturus a llawn hwyl yn torri ein calonnau."
Mae o'n gadael ei fam Emma-Jane, ei dad Keith, ei chwaer Sasha a'i lys frodyr Craig, Paul, Idwal ac Owain, a'i lys rieni Kim ac Andy.
'Ffrind da'
Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am dystion a thystiolaeth dashcam o'r gwrthdrawiad, o ran cyflwr y ffordd a'r amodau gyrru.
"Nid ydym yn dal i chwilio am yrrwr fan wen, ond rydym yn dal i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad ychydig cyn 21:30 nos Wener 18 Rhagfyr ar yr A4244 yn y Felin Hen, Bangor," meddai llefarydd.
Dywedodd mam Rowan, Emma-Jane: "Ef oedd fy seren fach, oedd yn meddwl y byd o'i deulu.
"Byddai'n helpu unrhyw un ac roedd yn garedig a llawn gofal, byddai unrhyw un yn falch o'i alw yn fab.
"Bydd fy mywyd hebddo yn wag, ond wedi ei lenwi gyda chariad am yr hapusrwydd iddo roi i eraill, a bydd yn aros yn y cof drwy April ac Osian."
Dywedodd ei gydweithwyr yn siop Morrisons ei fod yn aelod gwerthfawr o'r tîm, ac yn "ffrind da i gymaint ohonom".
"Fe wnaeth argraff ar bawb roedd yn cyfarfod, a bydd yn cael ei golli'n fawr."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu â'r heddlu ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 20000769289.