Ni fydd arhosfan lorïau'n dod yn ganolfan tollau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaergybiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i gynlluniau i ddefnyddio arhosfan lorïau RoadKing yng Nghaergybi fel safle clirio mewndirol ar gyfer nwyddau sy'n cyrraedd y porthladd o Iwerddon.

Cadarnhawyd hyn gan Lywodraeth Cymru ac Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie, ddydd Mercher.

Ond mewn datganiad dywedodd Ms Crosbie bod safleoedd eraill yng Nghaergybi wedi cael eu dewis, er nad oes cadarnhad fod y gwaith ar y safleoedd hynny wedi dechrau.

Mae'r cyfnod pontio cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ben erbyn 1 Ionawr.

Cafodd y newyddion ei ddisgrifio fel "traed moch" gan Aelod Senedd Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth ar ei gyfrif Twitter.

Dywedodd Ms Crosbie ei bod wedi bod yn gweithio gyda llywodraethau Cymru a'r DU a Chyngor Ynys Môn i ganfod lleoliad priodol ar gyfer yr adnodd, gan honni y byddai canolfan o'r fath yn creu 120 o swyddi.

Yn ei datganiad ddydd Mercher, dywedodd Ms Crosbie: "Mae ymchwiliadau wedi dangos nad oes un safle unigol sydd ar gael yng Nghaergybi sy'n ddigon mawr [i wneud y gwaith]. Mae hyn yn golygu bydd rhaid rhannu'r gwaith dros amryw safle.

"Rwy'n falch fod safleoedd eraill mwy priodol wedi cael eu canfod yn lleol. Rwy'n gobeithio derbyn cadarnhad yn fuan y bydd y gwaith yn dechrau gan arwain at greu mwy na 120 o swyddi newydd yng Nghaergybi.

"O ganlyniad i gyhoeddiad heddiw rwy'n gobeithio y bydd RoadKing yn medru aros ar agor heb golli unrhyw swyddi."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi asesu'r dewisiadau yn ofalus ac wedi penderfynu y byddai safleoedd eraill ar Parc Cybi yn fwy addas. Byddai hynny hefyd yn rhoi'r cyfle i'r arhosfan lorïau aros ar agor gan warchod swyddi a darparu gwasanaeth i'w cwsmeriaid os fydd yn dymuno gwneud hynny.

"Byddwn yn cyhoeddi manylion am y safleoedd maes o law."