Brexit: Oedi porthladdoedd yn broblem i bysgotwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ships
Disgrifiad o’r llun,

Bydd oedi mewn porthladdoedd yn broblem i bysgotwyr pysgod ffres

Mae rhai o bysgotwyr môr Cymru yn ystyried rhoi'r gorau iddi am rai misoedd hyd nes y bydd sefyllfa Brexit yn fwy eglur.

Gyda mis tan y bydd y cyfnod pontio'n dod i ben wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, mae pysgota'n parhau'n un o'r pynciau llosg.

Gydag ofnau am oedi mawr mewn porthladdoedd i'r rhai sy'n gwerthu cynnyrch ffres a chynnyrch byw - fel pysgod cregyn - mi fyddai hynny'n broblem arbennig.

Mae John Jones yn pysgota cregyn gleision i gwmni Deep Dock Ltd ym Mhorth Penrhyn ger Bangor.

"Maen nhw'n cael eu pysgota yn y Fenai ac yn mynd allan mewn 10 munud ar refrigerated lori ac maen nhw off wedyn i Holland. Os dach chi'n gadael cerrig gleision ar y wal 'ma am ddiwrnod neu ddau maen nhw'n dechrau marw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Jones a'i gwmni yn ystyried stopio'u gwaith am rai misoedd

Yn wyneb yr ansicrwydd mae'r cwmni'n yn ystyried rhoi'r gorau iddi am gyfnod.

"Fyddwn ni wedi stopio a just gweld sut mae pethau'n setlo lawr am ychydig o fisoedd ydy plan ni. Os ydy wagenni yn mynd i fod mewn delays am oriau ac oriau a milltiroedd a milltiroedd, fydd o'm werth i ni anfon y stwff."

Disgrifiad o’r llun,

Pysgod cregyn sy'n cael eu dal a'u gwerthu gan fwyaf gan bysgotwyr môr Cymru

Pysgod cregyn, yn cael eu dal mewn cychod gweddol fach yn agos at yr arfordir ydy'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n cael ei gasglu a'i werthu gan bysgotwyr Cymru.

Mae'r rhan fwyaf yn cael ei gwerthu yn Ewrop.

Ond mae'r DU a'r Undeb Ewropeaidd yn anghytuno ar bwy ddylai gael yr hawl i bysgota ym moroedd Prydain ac felly dydyn nhw ddim wedi cwblhau cytundeb masnach hyd yma.

'Dyfodol anodd i gwmnïau bychain'

Disgrifiad o’r llun,

Dydy Siôn Williams ddim yn meddwl gall gwmnïau pysgota bach para am hir iawn

Os na fydd datrysiad i hynny, mi allai'r dyfodol fod yn anodd i rai o gwmnïau bychain Cymru yn ôl Siôn Williams o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru.

"Yn y tymor hir mae'n siŵr fydd o'n cael ei ddatrys. Ond dydyn ni fel diwydiant ddim yn wydn iawn, a faint mor hir fedr pobl barhau?"

Yn gyffredinol ar draws Prydain roedd llawer iawn o bysgotwyr o blaid Brexit a gyda system cwotâu newydd yn dod i rym mae nifer yn ei weld fel cyfle i adfywio'r diwydiant a chymunedau arfordirol.

'Mwy i golli' gan bysgotwyr Cymru

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Liz Saville Roberts mae Brexit yn golygu bydd pysgotwyr Cymru yn colli allan

Ond mae gan aelod seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts AS amheuon.

"Mae 'na ragor o gwota i ddod ond does 'na ddim sicrwydd am sut bydd y cwota yna'n cael ei ddyrannu," meddai.

"Felly wrach fydd 'na botensial yn fan hyn, ond ar hyn o bryd mae'r hyn sydd gan bysgotwyr Cymru i golli, sef marchnad heb dariff gydag Ewrop yn llawer pwysicach i'n pysgotwyr a'r cymunedau sy'n dibynnu arnyn nhw."

Yn ôl Llywodraeth Prydain, maen nhw wedi gweithredu i "leihau'r amharu" ar allforion yn cynnwys sefydlu "Gwasanaeth Allforion Pysgod" fydd yn rhoi "tystysgrif dalfa a chymorth technegol".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei fod wedi rhoi mesurau yn eu lle i sicrhau bod pysgod cregyn yn dal i gael eu masnachu, ond ei bod hi'n "debygol y bydd amharu sylweddol" i'r sector.

Pynciau cysylltiedig