Y Bencampwriaeth: QPR 0-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe lwyddodd Abertawe i godi i safle'r dyrchafiadau awtomatig yn y Bencampwriaeth, wedi i goliau gan Andre Ayew a Jamal Lowe roi buddugoliaeth o 2-0 i'r clwb oddi cartref yn erbyn Queens Park Rangers.
Peniodd eu prif sgoriwr Ayew i rwyd wag gan roi tîm Steve Cooper ar y blaen ar ddiwedd hanner cyntaf oedd wedi gweld perfformiad gwell gan Rangers.
Yna rhedodd Lowe yn glir o'r amddiffyn yn gynnar yn yr ail hanner, a sgorio am y pedwerydd tro yn ei bedair gêm ddiwethaf, a rhoi rheolaeth gadarn i'r ymwelwyr.
Mae trydydd buddugoliaeth Abertawe mewn pedair gêm yn golygu eu bod yn codi heibio i Bournemouth ac yn symud i'r ail safle yn y tabl, bedwar pwynt y tu ôl i'r tîm sydd ar y brig, sef Norwich City.