Undeb athrawon yn mynnu atebion am Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
School corridor with secondary school pupils wearing masksFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd plant ysgolion uwchradd yn cael eu dysgu ar-lein wythnos cyn gwyliau Nadolig

Mae undeb athrawon am gael gwybod a wnaeth cau ysgolion cyn y Nadolig unrhyw wahaniaeth i'r gyfradd R - sef y gyfradd sy'n mesur sut mae'r haint coronafeirws yn cael ei drosglwyddo - yng Nghymru.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y penderfyniad "wedi cael effaith" mewn rhai ardaloedd.

Mae Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru (ASCLC) yn galw am weithredu brys ar gynlluniau addysgu os yw'r raddfa R yn codi yng Nghymru ac os yw straen newydd o'r haint yn lledaenu.

Bydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Ionawr ond nid gyda'i gilydd.

Cyn y Nadolig roedd cyngor gwyddonol mewn adroddiad gan Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai plant hunan-ynysu adref am ddeng niwrnod cyn gweld perthnasau hŷn.

Fe wnaeth ysgolion uwchradd a cholegau gau wythnos cyn y gwyliau ond fe ddewisodd rhai siroedd gadw ysgolion cynradd ar agor tan 18 Rhagfyr.

Ar 23 Rhagfyr fe wnaeth y rhif R godi o 1 i 1.3 yng Nghymru gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod y rhif trosglwyddiad ar gyfartaledd yn 1.2.

Mae hyn y golygu bod 10 person sy'n cael y feirws yn ei basio i 12 o bobl.

'Am weld cysondeb cyn penderfynu'

Mae Eithne Hughes, cyfarwyddwr ASCLC am wybod a wnaeth cau'r ysgolion yn gynnar unrhyw wahaniaeth i'r gyfradd R.

Mae'n dweud hefyd bod angen cyfathrebu clir os oes unrhyw newid yn mynd i fod ar agor ysgolion wedi'r gwyliau.

"Rydyn ni am wybod yn gyflym," meddai, "fel bod rhieni ac ysgolion yn gwybod yn union be sy'n digwydd mewn cyfnod byr o amser."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ysgolion uwchradd a cholegau gau eu drysau wythnos yn gynnar cyn y Nadolig

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod nifer yr achosion o coronafeirws yn "parhau i fod yn uchel iawn yng Nghymru".

"Rydym yn cadw llygad ar effaith y penderfyniadau i ddiogelu iechyd y cyhoedd gan gynnwys symud i lefel pedwar a'r penderfyniad i ddysgu ar-lein yr wythnos olaf cyn gwyliau'r Nadolig.

"Er bod yna arwyddion calonogol bod y mesurau a gyflwynwyd cyn y Nadolig wedi cael effaith - nid dyma'r achos ym mhob ardal yng Nghymru.

"Ry'n ni am weld tuedd cyson cyn dod i unrhyw benderfyniad," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig