Ysgolion uwchradd i addysgu ar-lein yr wythnos nesaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
DisgyblionFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd ysgolion uwchradd a cholegau yn cau eu drysau wythnos yn gynnar cyn y Nadolig

Bydd ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru yn newid i ddysgu ar-lein yr wythnos nesaf fel rhan o'r ymdrech i ostwng cyfraddau coronafeirws.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ei bod eisiau pwysleisio bod ysgolion a cholegau yn llefydd diogel, er bod dros hanner ysgolion Cymru wedi cael o leiaf un achos o Covid-19 ers mis Medi.

Ond ychwanegodd ei bod yn cydnabod y gall safleoedd addysg gyfrannu at fwy o gymysgu y tu allan i'r ysgol neu'r coleg.

Dywedodd y gweinidog bod y penderfyniad yn deillio o gyngor gan y Prif Swyddog Meddygol ynglŷn â'r sefyllfa Covid-19 yng Nghymru, sy'n "dirywio".

Mae'r ymateb wedi bod yn gymysg, gydag undebau ac athrawon yn croesawu'r penderfyniad, ond mae un cynghorydd wedi dweud nad yw'r data yn cefnogi'r newid.

Rhai ysgolion cynradd yn cau

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd ysgolion uwchradd a cholegau yn cau eu drysau wythnos yn gynnar cyn y Nadolig, er y bydd addysgu ar-lein yn parhau yr wythnos nesaf.

Nid yw'r penderfyniad yn effeithio ar ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig, ond mae sawl cyngor wedi dweud y bydd disgyblion cynradd yn derbyn gwersi ar-lein yn sgil y cyhoeddiad, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Ceredigion, Gwynedd, Casnewydd a Thorfaen.

Mae cynghorau siroedd Caerfyrddin a Phenfro yn rhoi'r dewis i ysgolion cynradd os ydynt am symud i ddysgu ar-lein.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw cyhoeddiad y gweinidog yn berthnasol i ysgolion cynradd, ond mae rhai cynghorau yn newid y drefn i blant iau hefyd

Dywedodd Ms Williams ei bod yn bwysig cael "cyfeiriad clir, cenedlaethol" er mwyn cymryd y pwysau oddi ar ysgolion, colegau, awdurdodau lleol a rhieni neu ofalwyr.

"Pob dydd rydyn ni'n gweld mwy a mwy o bobl angen triniaeth ysbyty gyda symptomau coronafeirws," meddai.

"Mae'r feirws yn rhoi ein gwasanaeth iechyd dan bwysau sylweddol a pharhaus, ac mae'n bwysig ein bod oll yn gwneud cyfraniad er mwyn lleihau ei ledaeniad."

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod y gyfradd Covid-19 ledled Cymru yn 370 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl, gyda 17% o'r rheiny sy'n derbyn prawf yn bositif.

Mae'r gyfradd R yng Nghymru wedi codi i 1.27, ac mae nifer yr achosion yn dyblu pob 12 diwrnod.

'Allweddol bod plant yn aros adref'

Dywedodd Ms Williams mai'r cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton oedd dechrau dysgu ar-lein "cyn gynted â bod hynny'n ymarferol".

"Ar ôl trafod gydag arweinwyr awdurdodau lleol, rwy'n hyderus bod gan ysgolion a cholegau systemau addysgu ar-lein mewn lle," meddai'r gweinidog.

"Bydd hyn hefyd yn bwysig wrth sicrhau bod myfyrwyr gartref yn ystod y cyfnod yma, yn dysgu ac yn aros yn ddiogel.

"Yn allweddol - ac mae hyn yn bwysig iawn - fe ddylai plant fod adref.

"Nid anrheg Nadolig cynnar yw hyn. Plîs gwnewch bopeth o fewn eich gallu i leihau cyswllt gydag eraill."

'Penderfyniad hwyr, ond cywir'

Dywedodd prifathro Ysgol Sant Teilo yng Nghaerdydd bod y cyhoeddiad "wedi dod yn hwyr", ond mai dyma yw'r "penderfyniad cywir".

Dywedodd Ian Loynd ar Radio Wales fore Gwener ei fod yn ddewis rhwng "teuluoedd yn dewis dros eu hunain" i gadw plant adref, neu newid addysgu "yn bwyllog a gyda rheolaeth".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd bod prifathrawon wedi bod yn gofyn am gau yn gynnar ers rhai wythnosau, ond y byddai'n rhaid i ysgolion "drawsnewid mewn diwrnod" o ganlyniad i'r cyhoeddiad.

Ychwanegodd bod y sefyllfa ar gyfer y flwyddyn newydd dal yn ansicr: "Galla' i ond gobeithio y byddwn ni'n agor yn y flwyddyn newydd fel y disgwyl, ond bydd rhaid gweld beth sy'n digwydd.

"Fy marn i yw mai'r lle gorau i blant yw'r dosbarth, ond mae'n rhaid bod yn ddiogel."

Roedd rhai awdurdodau lleol eisoes wedi cyhoeddi y byddai'r ysgolion yn eu hardaloedd nhw yn cau yn gynnar.

Fe wnaeth Blaenau Gwent gau dosbarthiadau ddydd Mercher, wrth i'r gyfradd ar gyfer pob 100,000 o bobl gyrraedd 600 yno.

Yng ngogledd Cymru, roedd Sir y Fflint a Wrecsam wedi penderfynu cau ysgolion ddydd Gwener, tra bod Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Rhondda Cynon Taf eisoes wedi cyhoeddi eu bwriad i gau ddydd Mercher nesaf.

Roedd dau undeb addysg hefyd wedi galw ar y llywodraeth i gau ysgolion wythnos yn gynnar.

Ymateb cymysg

Dywedodd undeb yr ASCL - sy'n cynrychioli arweinwyr ysgolion - eu bod yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru.

"Mae hyn yn amlwg yn benderfyniad anodd ond mae'r cyngor iechyd cyhoeddus yn amlwg iawn - mae angen gwneud hyn er mwyn mynd i'r afael â'r cyfraddau Covid yng Nghymru ac atal lledaeniad y feirws," meddai cyfarwyddwr yr undeb yng Nghymru, Eithne Hughes.

"Er hynny, rydyn ni'n annog Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gadw golwg fanwl ar y sefyllfa mewn ysgolion cynradd a gweithredu'n briodol os oes angen."

Ond mae cynghorydd yng ngogledd Cymru wedi dweud nad yw'r data yn ei ardal yn cefnogi'r penderfyniad.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, sy'n gyfrifol am addysg ar Gyngor Sir Ddinbych, ei fod yn croesawu eglurder, ond nad oedd un system i bawb yn briodol.

"Yn amlwg diogelwch disgyblion ac athrawon ydy'r flaenoriaeth, ond mae ganddon ni 12 achos Covid-19 yn ein hysgolion - pump o blant a saith athro", meddai.

Dywedodd bod tua 700 o blant yn ynysu, allan o 16,000 yn y sir, ond erbyn dydd Llun y byddai 98% o ddisgyblion wedi bod yn ôl yn y dosbarth.

"Rŵan 'da ni'n taflu ein holl ddisgyblion uwchradd allan i'r gymuned o 'fory, o bosib i fynd i siopa Nadolig hefo rhieni neu gymysgu hefo plant eraill.

"Dwi'n teimlo y gall hyn arwain at gynnydd yn y gymuned achos bydd yn anoddach i reoli plant yn y gymuned am gyfnod hirach."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Suzy Davies AS, bod y penderfyniad yn "esiampl arall" o "negeseuon dryslyd a chymysg" gan y llywodraeth, sydd "ddim yn ystyried y cyfraddau gwahanol o heintio dros Gymru".

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Siân Gwenllian AS, bod angen sicrhau nad oes yr un plentyn yn dioddef oherwydd diffyg offer ar gyfer dysgu o gartref, a bod "darpariaeth ar safleoedd i ddysgwyr ifanc, a phlant gweithwyr allweddol".