'Brechu gweithwyr iechyd cyn yr henoed i leihau pwysau'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nyrs gyda brechlyn PfizerFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau frechlyn wedi cael eu cymeradwyo i'w defnyddio yng Nghymru bellach

Dylai gweithwyr iechyd dderbyn y brechlyn Covid-19 cyn pobl hŷn er mwyn lleihau'r pwysau ar ysbytai a meddygfeydd, yn ôl meddyg teulu.

Mae'r straen newydd o'r feirws wedi arwain at gynnydd mewn salwch a'r angen i hunan-ynysu ymhlith staff, meddai Dr Phil White, cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio bod y GIG dan bwysau na welwyd mo'i debyg o'r blaen.

Daw'r alwad gan Dr White wrth i ffigyrau ddangos bod llai yn cael eu brechu yng Nghymru na mewn gwledydd eraill.

'Angen gwneud mwy'

Dywed Llywodraeth Cymru fod gweithwyr rheng flaen y GIG ymhlith y grwpiau cyntaf i gael eu brechu, ond mae angen gwneud mwy yn ôl Dr White.

"Fedrwch chi ddim rhedeg gwasanaeth iechyd heb staff," meddai.

"Dyna yw'r pryder mawr wrth i staff fynd yn sâl yn eu lluoedd ac mae'n rhaid i ni eu brechu fel y gallent edrych ar ôl cleifion."

Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, preswylwyr a staff cartrefi gofal, a phobl dros 80 oed sydd wedi cael blaenoriaeth ar gyfer y brechiad Pfizer-BioNTech hyd yma.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Dr White, sy'n feddyg teulu ar Ynys Môn, mai dyna oedd y cynllun gwreiddiol o frechu ar gyfer straen gynta'r feirws.

Ond mae'r straen newydd, a arweiniodd at gyflwyno cyfyngiadau mwy caeth cyn y Nadolig, wedi newid pethau, a bellach dylid rhoi blaenoriaeth i weithwyr iechyd cyn unrhyw un arall, meddai.

"Mae gan y byrddau iechyd a meddygon teulu brinder staff anferthol oherwydd Covid a hunan-ynysu," meddai.

"Yma yng ngogledd Cymru mae salwch o gwmpas 10% ac mae 500 o staff meddygol yn hunan-ynysu."

Brechlyn arall ar y ffordd

Mae'r brechlyn Oxford-AstraZeneca wedi derbyn sêl bendith gan reoleiddwyr ddydd Mercher - cam fydd yn arwain at frechu torfol.

Mae pobl angen dau ddos o'r brechlyn hwnnw, ac mae'r DU wedi archebu 100 miliwn dos.

Mae modd ei gadw mewn oergelloedd, ac mae'n haws ei symud o le i le, yn wahanol i frechlyn Pfizer sydd angen cael ei gadw ar dymheredd o -70C.

Ond mae'r arafwch wrth gyflwyno'r brechlyn Pfizer ar draws Cymru wedi cael ei feirniadu.

Mae disgwyl i'r ffigyrau diweddaraf gael eu cyhoeddi yr wythnos hon, ond yn ôl y canlyniadau hyd at 23 Rhagfyr roedd Cymru tu ôl i genhedloedd eraill gyda 0.72% o'r boblogaeth wedi derbyn y brechlyn a 22,595 dos wedi eu rhoi.

Ychwanegodd Dr White: "Roedd hi wastad yn mynd i fod yn anodd o gofio daearyddiaeth Cymru, a dwi'n meddwl eu bod wedi canolbwyntio ar ardaloedd lle mae'r haint yn uchel fel rhannau o dde Cymru ac ardaloedd fel Wrecsam.

"Ond unwaith y cawn ni frechlyn Rhydychen, yna i ffwrdd a ni."

Llythyr cyn-AS i Boris Johnson

Yn y cyfamser mae'r cyn-AS Llafur, Ann Clwyd, wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, yn cyfeirio at bryderon nad yw Cymru wedi derbyn ei chyfran o'r 40 miliwn dos o frechlyn Pfizer gafodd eu harchebu gan ei lywodraeth.

"Mae pryder nad yw'r GIG yng Nghymru wedi derbyn digon o ddosys i frechu staff rheng flaen y GIG a gweithwyr gofal," meddai.

"Fel rhywun 82 oed dwi'n siarad dros nifer fawr o bobl hyn sydd wedi bod yn hunan-ynysu ers misoedd.

"Mae gan Gymru ganran uwch o bobl dros 80 ac mae llawer ohonyn nhw bellach yn rhy ofnus i adael eu cartrefi."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gweithwyr rheng flaen y GIG ymhlith y grwpiau cyntaf i dderbyn y brechlyn, yn unol â'r blaenoriaethau gafodd eu cytuno gan y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio."