Covid-19: Brechlyn ddim am ddileu'r perygl yn llwyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CoronavirusFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyfarwyddwr dylunio meddyginiaeth Pfizer yn rhybuddio y bydd Covid-19 yn dal i beryglu bywydau er gwaethaf datblygu brechlynnau effeithiol.

Dywedodd Dr Dafydd Owen, sydd â'i wreiddiau yn Rhuthun, wrth raglen Newyddion S4C: "Dwi'n gobeithio, ac yn disgwyl y bydd y vaccine yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r pandemig yn erbyn Covid-19, ond dwi ddim yn siwr y byddwn ni'n gallu dweud y bydd o wedi mynd am byth, yn bob man."

Ers mis Mawrth, mae wedi bod yn datblygu moleciwl all fod yn effeithiol fel triniaeth gwrth-feiral.

Mae'r driniaeth yn cael ei brofi mewn labordai ers mis Medi, ac yn y flwyddyn newydd bydd yn cael ei ddefnyddio ar gleifion.

Treialon clinigol i driniaeth newydd

"Fydd na rhai pobl yn dal i ddal y feirws ac mae bod yn barod gyda thriniaeth anti-viral therapeutics yn yr ysbyty, neu cyn cyrraedd ysbyty, yn rhan o beth ni'n gwneud gyda viruses. Dyma ydan ni'n gwneud gyda viruses - dyw Covid-19 ddim gwahanol.

"Dechrau blwyddyn nesaf, byddwn ni mewn clinical trials gyda phobl sydd yn sâl efo Covid-19 mewn ysbytai. Dyna lle fyddwn ni'n ffindio allan os ydy'r moleciwl yn gweithio yn erbyn y coronafeirws sydd yn achosi covid-19, ac i allu gwneud hynny mewn llai na blwyddyn, mae pethau wedi mynd yn reit ffast."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Dafydd Owen yn gobeithio bydd y driniaeth gwrth-feiral yn helpu yn y frwydr yn erbyn Covid-19

Wedi ei eni yn Llundain a'i fagu yn Newbury, Berkshire, cafodd Dr Owen ei fagu ar aelwyd Gymraeg gan rieni o Ruthun.

Ar ôl graddio mewn cemeg yn Imperial College, Llundain, enillodd PhD o Gaergrawnt cyn dechrau gweithio i Pfizer yng Nghaint.

Pan agorodd y cwmni labordai yn ardal Boston, Massacheusetts ddegawd yn ôl, symudodd i'r Unol Daleithiau i fyw a gweithio.

Gyda'r pryder am amrywiolyn newydd i'r feirws wedi achosi clo mawr arall yng Nghymru, dyw Dr Owen ddim yn teimlo bod angen poeni yn ormodol am esblygiad y coronafeirws:

"Y peth cyntaf i gofio ydy bod hyn yn digwydd o hyd mewn feirysau ac mae vaccines yn dal i weithio. Dio ddim yn newyddion bod feirws yn gallu newid.

"Mae'r un fath yn wir i anti-viral therapeutics hefyd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd y driniaeth gwrth-feiral yn gweithio er bod y feirws yn newid

"Fyddwn i'n disgwyl bod anti-viral therapeutic yn gweithio er bod y feirws yn newid. Mae'n dibynnu ble yn union mae'n newid ond 'da ni'n gwybod ble mae'n moleciwl ni yn eistedd yn y protin tu fewn y feirws, a 'da ni'n dallt hynny'n dda iawn o'r gwaith 'da ni 'di bod yn gwneud.

Gweld diwedd i'r pandemig?

"A dwi'n gobeithio bydd anti-viral therapeutics yn ddarn o ffindio ateb i'r broblem sydd yn wynebu ni gyd ar draws y byd ar hyn o bryd."

Er yn cydnabod bod y feirws wedi achosi poen mawr yn rhyngwladol, mae e'n obeithiol y bydd diwedd i'r pandemig yn 2021.

"Fedra'i siarad fel gwyddonydd neu fel tad, ac fe wna'i siarad fel tad rwan. Mae genna'i ddau o blant fan hyn sydd heb weld Nain a Taid ers dros blwyddyn, ond dwi'n gobeithio rhwng y vaccine a'r anti-viral therapeutics, hwyrach y gall hynny newid y flwyddyn nesaf."