Anrhydedd i weinidog gasglodd £1.1m i elusen

  • Cyhoeddwyd
Goronwy a Beti
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Goronwy a Beti Evans i gasglu dros £1m i Blant mewn Angen dros y blynyddoedd

Mae gweinidog o Geredigion a staff y Gwasanaeth Iechyd ymhlith y Cymry sydd ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd y Frenhines eleni.

Mae'r Parchedig Goronwy Evans yn cael ei anrhydeddu am ei waith elusennol a'i wasanaeth i'r gymuned yn Llanbedr Pont Steffan.

Am eu gwaith yn ystod pandemig Covid-19 mae'r meddyg sefydlodd y gwasanaeth ymgynghori fideo yng Nghymru, pennaeth nyrsio Ysbyty Treforys ac ymgynghorydd gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn cael eu hanrhydeddu.

Mae dau efaill yn cael eu hanrhydeddu am eu gwaith gwirfoddol i Glwb Criced Casnewydd, tra bod un o arwyr Clwb Pêl-droed Abertawe, Alan Curtis, hefyd yn cael ei gydnabod.

'Dwi'n sobor o falch'

Yn un o hoelion wyth yr ardal, fe fydd y Parch. Goronwy Evans yn derbyn MBE am ei waith elusennol ac yn ehangach i gymuned Llanbed.

Roedd yn weinidog am dros 50 mlynedd cyn ymddeol, a gyda'i wraig Beti, llwyddodd i gasglu dros £1.1m i elusen Plant mewn Angen.

Dywedodd: "Dwi'n sobor o falch ac yn ddiolchgar bod rhywun wedi fy nghynnig.

"Pan roeddwn yn gweithio i [raglen radio] Helo Bobol fe wnaeth y cynhyrchydd Lena Pritchard Jones awgrymu bo' fi'n dod yn rhan o Blant Mewn Angen. Roedd e'n brosiect newydd a chyffrous a dyma godi £4,000 yn lleol yma yn Llambed ar ddechrau'r 80au.

"Fe gynyddodd y diddordeb yn fawr yn yr ardal ac erbyn y diwedd roeddem yn ymestyn ar draws ardal eang gan gynnwys 80 o ysgolion."

Ychwanegodd y byddai'n "hoffi cydnabod fy ngwraig Beti hefyd - hi oedd yn edrych ar ôl yr arian".

"Dwi'n hynod o ddiolchgar i bobl yr ardal am eu gweithgareddau a'u cyfraniadau ar hyd y blynyddoedd. Roeddwn yn gweld y cyfan fel rhan o'm cenhadaeth fel gweinidog.

"Roeddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod ychydig o'r arian yn dod yn ôl i blant anghenus yn yr ardal.

"Dwi hefyd wedi mwynhau yn fawr iawn fy ngwaith yn codi arian i elusennau canser ac ymweld a chartref Hafan Deg yn Llanbed. Ydy mae pawb yn falch o dderbyn anrhydedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Alka Surajprakash Ahuja ei bod yn "fraint cael y gydnabyddiaeth"

Ymhlith staff y Gwasanaeth Iechyd sy'n derbyn anrhydeddau mae'r Athro Alka Surajprakash Ahuja o Gaerdydd.

Fel un wnaeth sefydlu'r gwasanaeth ymgynghori fideo yng Nghymru, cafodd y "dasg enfawr" o ymestyn y cynllun ym mis Mawrth ar ddechrau'r pandemig.

Dywedodd bod "gwaith fyddai wedi cymryd blynyddoedd fel arfer angen ei wneud mewn mater o wythnosau".

Er bod ganddi deimladau cymysg am adael gwaith ar y rheng flaen, dywedodd ei bod yn "fraint cael y gydnabyddiaeth" o dderbyn MBE.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carol Doggett yn derbyn MBE am ei gwasanaeth yn ystod pandemig Covid-19

Yn ôl Dr Tamas Szakmany, ymgynghorydd gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Gwent, mae derbyn MBE yn gydnabyddiaeth i'r timau clinigol, ymchwil a gofal dwys sy'n "sicrhau bod pob claf yn gallu derbyn gofal dwys er y pwysau" ar y gwasanaeth iechyd.

Yn ogystal â'r gwaith ymchwil ac ymgynghori ar Covid-19, fe fuodd Dr Szakmany'n gofalu am 50 o gleifion coronafeirws.

Tebyg oedd neges Carol Doggett, pennaeth nyrsio yn Ysbyty Treforys, Abertawe, a ddywedodd ei bod yn derbyn MBE "ar ran holl staff yr adran gofal dwys ac adrannau eraill wnaeth gamu i mewn i helpu" yn ystod y don gyntaf o Covid-19.

Fe wnaeth Mrs Doggett sicrhau bod 156 o staff gafodd eu symud o adrannau eraill yn cael yr hyfforddiant angenrheidiol i roi gofal dwys i gleifion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Alan Curtis dros 350 o gemau i Abertawe

Enw amlwg o fyd chwaraeon yng Nghymru sy'n derbyn MBE ydy cyn-chwaraewr ac hyfforddwr i Abertawe, Alan Curtis.

Chwaraeodd dros 350 o gemau i'r Elyrch cyn troi at hyfforddi yn 2007, gan gynnwys ar gyfer y tymor pan gafodd Abertawe eu dyrchafu i'r Uwch Gynghrair yn 2011.

Roedd yn reolwr dros dro yn 2015 ac erbyn hyn mae'n Llywydd Anrhydeddus ar y clwb.

Dywedodd ei fod yn "falch iawn", ac yn "ddiolchgar am yr holl gefnogaeth, gan y chwaraewyr, y staff ac yn enwedig y cefnogwyr oherwydd mae wedi bod yn siwrne hir, a siwrne ffantastig".

Mae'n derbyn MBE am ei wasanaeth i bêl-droed Cymru.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dychwelodd Mark Owen i'w waith ar ôl ymddeol er mwyn cynorthwyo gwaith yr heddlu yn ystod y pandemig

Mae'r Swyddog Arbennig Mark Owen o Lanynys yn Sir Ddinbych yn derbyn MBE am ei wasanaeth i'r heddlu.

Dychwelodd i'w waith yn ystod y pandemig ar ôl ymddeol, a dan ei arweiniad fe ddyblodd nifer y gwirfoddolwyr arbennig i 200.

Hefyd yn derbyn anrhydedd eleni mae Rheolwr Gweithredol Gorsaf Bad Achub Aberystwyth, Richard Llewelyn Griffiths, sy'n cael BEM am ei wasanaeth i'r mudiad wedi 47 o flynyddoedd fel gwirfoddolwr.

Mae Brian a Lorna Keylock o Aberhonddu, Powys, yn derbyn BEM am eu gwaith gwirfoddol yn casglu arian i elusen Ymchwil Canser Cymru.

Mae'r pâr wedi casglu dros £500,000 dros 40 mlynedd o wirfoddoli.

Pâr arall sy'n cael eu hanrhydeddu yw'r efeilliaid Michael a David Knight o Gasnewydd, sydd wedi gwirfoddoli am 35 mlynedd i glwb criced y ddinas.

Ers ymuno gyda'r clwb yn 10 oed, mae'r ddau wedi bod yn chwaraewyr, hyfforddwyr ac yn weinyddwyr.

Fe fydd Lynn Sloman o Geredigion yn derbyn MBE am ei gwaith ym maes trafnidiaeth, yn ogystal â'r Athro Sandy Toogood o Ruthun, sy'n derbyn BEM am ei waith ym maes gwasanaethau i bobl ag anableddau.