Bywyd wedi Brexit: Ceisio osgoi anhrefn yng Nghaergybi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Porthladd Caergybi bore Gwener 1 Ionawr 2021
Disgrifiad o’r llun,

Roedd porthladd Caergybi'n dawel ar ddechrau diwrnod cyntaf y telerau masnach newydd

Mae cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i geisio sicrhau cyn lleied â phosibl o drafferthion ym mhorthladd Caergybi wedi i gyfnod pontio Brexit ddod i ben nos Iau.

Mae disgwyl i'r porthladd fod yn dawel yn ystod diwrnodau cyntaf Ionawr, cyn i'r traffig ddechrau prysuro yn ddiweddarach yr wythnos nesaf.

Ond o 1 Ionawr ymlaen, rhaid i unrhyw lorïau sy'n cludo nwyddau i Iwerddon nodi gwybodaeth tollau wrth drefnu eu taith ac os byddant yn cyrraedd y porthladd heb wneud hynny fyddan nhw ddim yn cael mynd i mewn i'r porthladd.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud popeth posib i "warchod" y porthladd.

'Prysuro ganol Ionawr'

Erbyn dechrau prynhawn Gwener, roedd 20% o'r lorÏau wedi cael eu gwrthod wrth gyrraedd porthladd Caergybi oherwydd gwaith papur annigonol, medd llefarydd ar ran Stena Line.

Ond roedd mwyafrif rheiny wedi cael mynediad wrth ddychwelyd ar ôl datrys y broblem gyda'u dogfennau, gan olygu mai canran o 7% oedd wedi methu teithio yn eu blaenau.

"Dyw hynny ddim yn ddrwg," meddai'r llefarydd. "Roedden ni'n gwybod y byddai'n rhaid cael cyfnod o addasu i rai cludwyr, fel yn achos unrhyw fusnes sy'n mynd trwy newid mor fawr."

Yn ôl Llywodraeth y DU, yn y sefyllfa waethaf posib, gallai 40-70% o'r cerbydau nwyddau trwm sy'n cyrraedd porthladdoedd ar ôl diwedd y cyfnod pontio gael eu troi i ffwrdd am beidio â chael y dogfennau cywir.

Mae system wrthlif dros dro ar yr A55 o Gaergybi, rhwng Cyffordd 2 a 4, er mwyn ceisio rhwystro tagfeydd pe bai llawer o lorïau'n cael eu troi o'r porthladd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y traffig yn ddistaw ar y system wrthlif ger y porthladd Ddydd Calan

Byddan nhw'n yn cael eu dargyfeirio i safle ar stâd ddiwydiannol Parc Cybi neu i lecyn ar yr A55, tra'u bod yn trefnu'r gwaith papur cywir.

Dywedodd y Gweinidog dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Fel y porthladd gyrru i mewn ac allan prysuraf ond un yn y DU, a chysylltiad hanfodol ag Iwerddon, roedd yn hollbwysig ein bod yn rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith yng Nghaergybi er mwyn sicrhau y byddai diwedd cyfnod Pontio'r UE yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y porthladd.

"Byddwn yn monitro'r sefyllfa yn ofalus a chyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny, byddwn yn cael gwared ar y system wrthlif dros dro. Er bod disgwyl i'r ychydig ddiwrnodau nesaf fod yn dawel, gwyddom y bydd pethau'n prysuro wrth i ni nesáu at ganol mis Ionawr.

Disgrifiad o’r llun,

Caergybi yw'r ail brysuraf o borthladdoedd fferi'r DU, ar ôl Dover

"Ein nod yw gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r porthladd, tref Caergybi a'r gymuned ehangach rhag unrhyw darfu posibl.

"Byddem hefyd yn annog cludwyr i sicrhau bod ganddynt y ddogfennaeth gywir er mwyn osgoi cael eu troi i ffwrdd o'r porthladd."

Ychwanegodd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: "Rydym yn gefnogol o'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru er mwyn diogelu safle Caergybi fel un o'r prif byrth rhyngwladol a tharfu cyn lleied â phosibl ar y dref a'i thrigolion.

"Ein blaenoriaeth o hyd, fel Cyngor Sir, yw sicrhau bod y llif traffig yn symud yn ddiogel ac yn effeithlon drwy Borthladd Caergybi, gan ddiogelu ein cymunedau lleol ar yr un pryd."

Pynciau cysylltiedig