Nofwyr gwyllt yn helpu ymchwil microblastig
- Cyhoeddwyd
Mae nofwyr yn chwarae rhan hanfodol mewn astudiaeth o ficroblastigau mewn afonydd a llynnoedd dros Brydain.
Bydd pob sampl sy'n cael ei gasglu yn cael ei brofi gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Oherwydd y pandemig, roedd pryder na fyddai modd parhau gyda'r gwaith o samplo a phrofi.
Ond mae nofwyr gwyllt - rheiny sy'n mwynhau mentro i ddyfroedd naturiol dros bwll nofio - yn cynorthwyo'r gwaith.
Un sy'n rhan o'r "archwiliad gwyddonol cyhoeddus mwyaf" ar blastigau yw Laura Sanderson o Harlech.
Dywedodd bod nofwyr wedi caglu samplau o ddyfroedd trefol, llynnoedd mynyddig a phyllau tanddaearol.
Mae recriwtio nofwyr o dros y DU yn ddefnyddiol oherwydd bod "pobl yn 'nabod y llefydd maen nhw'n nofio ac yn gwybod bod angen eu hamddiffyn".
Maen nhw hefyd yn "fwy tebygol o gael braw pan maen nhw'n ei ganfod [plastig] yn eu lleoliadau nhw".
Mae'r nofwyr wedi bod yn casglu samplau mewn poteli gwin gwag, ac yna mae'r dŵr yn cael ei brofi gan un o dîm Christian Dunn o Brifysgol Bangor.
"Byddwn ni'n cael y samplau a'i hidlo nhw drwy bapur hidlo... ac yna edrych drwy ficrosgop," meddai.
"Byddwn yn rhoi golau fflwroleuol ar y microsgop fydd yn galluogi i ni weld y microblastigau'n fwy amlwg oherwydd byddan nhw'n goleuo i fyny."
Dros Gymru mae o leiaf un person neu grŵp ym mhob sir, a'r gobaith yw y bydd yr ymchwil yn taflu goleuni ar sefyllfa ein llynnoedd, afonydd a phyllau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020