Rhybudd melyn am rew mewn grym ar gyfer Cymru gyfan

  • Cyhoeddwyd
RhewFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybydd tywydd yn dod i rym am 17:00 nos Iau

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew fydd yn berthnasol ymhob rhan o Gymru dros y dyddiau nesaf.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 17:00 nos Iau ac yn parhau tan 11:00 fore Gwener.

Yn ôl y rhagolygon bydd cawodydd sy'n gyfuniad o law, eirlaw ac eira yn syrthio ar arwynebau rhewllyd gan achosi i fannau fod yn llithrig.

Gallai hynny yn ei dro arwain at drafferthion posib i deithwyr.

Ar ben hynny mae cyfnod mwy di-baid o law ac eira ar y bryniau'n debygol o ledu ar draws gogledd Cymru nos Iau.

Gall hyd at 3 centimetr o eira syrthio ar dir uchel.

Pynciau cysylltiedig