Rhybudd melyn am rew ac eira mewn grym
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi rhybuddio gyrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd wrth i eira achosi trafferthion mewn rhannau o'r gogledd ddydd Gwener.
Maen nhw hefyd wedi atgoffa pobl i beidio torri rheolau'r cyfnod clo wedi i gar heddlu fynd yn sownd yn yr eira wrth roi cymorth yn dilyn damwain.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi mynd i roi cymorth ar ôl i gar lithro oddi ar y ffordd - er bod arwyddion yn rhybuddio bod y lôn ar gau - ger Moel Famau.
Aeth car yr heddlu yn sownd yn yr eira ac o ganlyniad, roedd dau gar heddlu, dau gerbyd achub mynydd a thri swyddog heddlu wedi gorfod delio â'r digwyddiad yn y diwedd.
"Dyma pam rydym yn dweud wrth bobl i beidio dod allan," meddai swyddog o Dim Troseddau Cefn Gwlad Heddlu'r Gogledd, mewn fideo ar Twitter.
Yn y cyfamser, mae 'na rybudd melyn am drafferthion i deithwyr mewn rhannau o Gymru wrth i'r tymheredd blymio.
Mae'r rhybudd am eira a rhew wedi'i gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer Cymru gyfan, tan hanner nos ddydd Gwener.
Fe all hyd at 5cm o eira ddisgyn ar fryniau a mynyddoedd, gyda rhybudd am rew i rannau helaeth o'r wlad ar gyfer y bore.
Mae 'na berygl y gall niwl sydd yn rhewi greu amodau gyrru peryglus ar y ffyrdd hefyd.
Dywed y Swyddfa Dywydd fod perygl i bobl lithro a chwympo, gyda disgwyl i eirlaw ac eira ddisgyn ar dir sydd eisoes wedi rhewi'n barod.
Mae eira yn debygol o ddisgyn ar fryniau a mynyddoedd, gyda chawodydd i'w gweld mewn mannau eraill, ond roedd hyn yn debygol o fod yn "ysgafn a dros dro".
Roedd tua 5cm o eira wedi disgyn yn y gogledd-ddwyrain fore Gwener, a bu'n rhaid cau rhai ffyrdd, yn cynnwys rhan o'r A55 rhwng Treffynnon a Llaneurgain am gyfnod yn dilyn damwain.
Mae rhybudd fod nifer o lonydd yn siroedd Dinbych a Fflint ar agor gyda gofal, yn cynnwys ardaloedd Rhydtalog a Llandegla, ac mae Bwlch yr Oernant, Llangollen, wedi cau'n gyfan gwbl.