Cwpan FA Lloegr: Nottingham Forest 1-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl iddyn nhw gael eu trechu gan Nottingham Forest ddydd Sadwrn.
Roedd hi'n ddechrau trychinebus i'r Adar Gleision, gyda Lyle Taylor yn rhwydo i'r tîm cartref o fewn tri munud gyda foli o groesiad Gaetan Bong.
Roedd gan Gaerdydd ddigon o feddiant trwy gydol y gêm, ond ni lwyddon nhw i greu cyfleon o bwys, gan olygu mai enw Forest fydd yn yr het ar gyfer y bedwaredd rownd.
Bydd y canlyniad yn cynyddu'r pwysau ar y rheolwr Neil Harris, gyda Chaerdydd bellach wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf.