'Dwi 'di blino a does dim jôcs rŵan,' medd parafeddyg
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru yn parhau i fod dan "bwysau eithriadol" ar ôl profi cyfnod anoddaf y pandemig ym mis Rhagfyr - yn ôl pennaeth y gwasanaeth.
Ar ei waethaf roedd bron i 400 o staff brys y gwasanaeth - tua 12% o'r gweithlu - i ffwrdd o'r gwaith naill ai'n sâl neu'n gorfod hunan-ynysu oherwydd Covid-19.
Yn ôl Jason Killens roedd y broblem honno, ynghyd â nifer uchel iawn o alwadau ac oedi sylweddol wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai, yn golygu bod cleifion â chyflyrau llai difrifol wedi gorfod aros yn llawer hwy nag y dylen nhw am ofal.
Ond mae'n dweud bod y pwysau bellach "yn llai" o'i gymharu â'r mis diwethaf, ac mae'n cyfaddef bod wythnosau anodd iawn i ddod.
"Mis Rhagfyr oedd y cyfnod caletaf am nifer o resymau", meddai.
"Roedd tua 400 o staff, 12% o'n gweithwyr brys yn hunan-ynysu.
"Fe gawson ni fwy o alwadau 111 a 999 - hynny yw cleifion sy'n cysylltu â ni gyda symptomau sy'n gysylltiedig â Covid, ac wrth gwrs oherwydd y pwysau ar weddill y gwasanaeth iechyd rydym wedi gweld oedi tu allan i unedau brys.
"Yn anffodus mae hynny'n golygu bod rhai cleifion llai difrifol wedi aros yn llawer hirach nag y bydden wedi'i ddisgwyl," meddai Mr Killens.
Profiad Aron Roberts, parafeddyg
"Cynt roedd yna lot o hwyl yn y crew room - jôcs ond rŵan dim ond pedwar sy'n yr ystafell a does dim llawer o banter. Fedrith hynna effeithio ni ar ôl galwad drwg.
"Ddechrau Ebrill mi ges i Covid - roeddwn i'n tagu a methu anadlu wrth fynd o'r 'stafell wely i'r gegin. Ar ôl 15 diwrnod es i nôl i'r gwaith ac yn y dechrau roeddwn i'n fyr fy ngwynt - dydy o ddim yn beth neis o gwbl.
"Mae'r pwysau wedi cynyddu yn yr ail glo. 'Dan ni wedi gorfod aros tu allan i ysbytai. 'Da ni'n gweithio efo staff yr ysbyty ond yn anffodus does dim gwlâu - felly mae'n anodd.
"Canlyniad hyn yw fod pobl yn y gymuned yn gorfod aros ac mae pobl yn gofyn lle 'dach chi wedi bod. Pan 'dach chi'n clywed hynna o hyd ma'ch morâl chi'n cael hit. Dwi wedi blino - mae'r clo yma yn waeth na'r un cyntaf really."
Profiad Jonathan Sweet - un o reolwyr y Gwasanaeth Ambiwlans
"Mae'r wythnosau olaf yma wedi bod yn anodd iawn. Roedd mis Rhagfyr yn un o'r misoedd prysuraf yn hanes y Gwasanaeth Ambiwlans ond 'dan ni'n diolch am y cymorth 'dan ni wedi ei gael gan y Gwasanaeth Tân a'r Lluoedd Arfog.
"Mae myfyrwyr parafeddygol hefyd wedi rhoi work capacity mewn i'r system.
"Yn ystod yr ail don oherwydd straen newydd Covid mae yna fwy o staff sy'n derbyn galwadau 999 off o'r gwaith oherwydd eu bod wedi profi'n bositif am Covid.
"'Dan ni gyd yn tynnu at ein gilydd a dwi'n gofyn i'r cyhoedd ffonio os oes argyfwng."
Aros am dros 11,000 awr yn Rhagfyr
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi bod ar ei lefel uchaf o rybudd - yr hyn syn cael ei ddisgrifio fel "pwysau eithafol" - ers dechrau mis Rhagfyr.
Roedd y sefyllfa mor ddifrifol ddechrau'r mis hwnnw fel y bu'n rhaid i'r gwasanaeth ddatgan "digwyddiad critigol" am gyfnod oherwydd problemau difrifol, yn benodol yn ne ddwyrain Cymru.
Mae'r pwysau hynny wedi arwain at ddirywiad yn amseroedd ymateb ambiwlansys yn ystod y pandemig, ond mae'r pwysau ar ysbytai hefyd wedi gwneud y sefyllfa yn waeth.
Ym mis Rhagfyr treuliodd ambiwlansys dros 11,661 awr yn aros y tu allan i unedau brys i drosglwyddo cleifion - mae hynny'n cyfateb i gyfanswm o fwy na 485 diwrnod.
Ychwanegodd Mr Killens: "Ry'n ni fel arfer yn gweld oedi fel hyn yn ystod y gaeaf ond yr hyn sy'n unigryw y tro hwn yw cyd-destun y pandemig. Mae llai o gapasiti mewn unedau brys oherwydd bod angen i gleifion ymbellhau.
"Mae angen cynnal profion hefyd cyn i gleifion gael eu derbyn - mae'r cymhlethdodau ychwanegol yn golygu bod y broses yn arafach.
"Hefyd o ganlyniad i'r feirws rydyn ni'n gorfod glanhau cerbydau ac offer yn amlach ac yn fwy trylwyr ac mae staff yn gorfod gwisgo PPE Lefel 3 - yr uchaf - mewn rhai achosion.
"Mae'n cymryd nifer o funudau iddyn nhw wisgo rheiny cyn trin y cleifion."
Er mwyn llenwi'r bylchau o ran staffio a gwella amseroedd ymateb - mae tua 80 o filwyr yn cynorthwyo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am yr eildro ers dechrau'r pandemig ynghyd â nifer o staff brys eraill gan gynnwys aelodau o'r Gwasanaeth Tân.
"Maen nhw'n gyrru ambiwlansys brys i ni... sy'n golygu y gall aelod o staff ambiwlans ofalu am y claf.
"O ystyried yr absenoldeb yr ydyn ni wedi'i weld mae hyn yn caniatáu i ni roi mwy o ambiwlansys ar y strydoedd er mwyn ymateb yn gyflymach i alwadau," medd Mr Killens.
'Gwella pan ddaw'r gwanwyn'
Ond ar ôl wynebu pwysau di-baid am bron i flwyddyn - mae Mr Killens yn dweud ei fod yn poeni am effaith y cyfan ar iechyd meddwl a lles staff ambiwlans a'r canolfannau rheoli.
Mae'n canmol staff am eu hymdrechion mewn cyfnod hynod o anodd ac yn cydnabod y bydd gwersi'r flwyddyn ddiwethaf o fudd i'r gwasanaeth yn y tymor hir.
"Rwyf wedi bod yn y gwasanaeth ambiwlans ers 25 mlynedd ac mae'r ymdrech a'r ymroddiad wedi bod yn aruthrol," ychwanegodd.
"Mae'r staff wedi parhau i ddarparu'r gofal gorau mewn amgylchiadau anodd iawn. Pan fyddwn yn cyrraedd pendraw y pandemig byddwn yn sefydliad cryfach.
"Rwy'n credu ein bod ni'n cyrraedd y cymal olaf. Rydym wedi cael dwy don o'r feirws ac wedi dysgu llawer, a chyda brechlyn yn cael ei gyflwyno mae gennym gyfle gwirioneddol nawr i weld diwedd ar yr ansicrwydd a'r niwed.
"Erbyn i ni gyrraedd ochr arall y gwanwyn, mae'n debyg y byddwn yn gallu dychwelyd i ryw fath o normalrwydd - beth bynnag fydd hynny ar ôl 18 mis o bandemig.
"Mae ychydig wythnosau anodd i ddod ond os gallwn ni bara trwy Chwefror a mis Mawrth, ar yr amod bod pawb yn cadw at y rheolau, byddwn mewn sefyllfa well o lawer wrth i ni ddod i'r gwanwyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2020