'2020 wedi bod yn straen ond wedi dod â bendithion'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dr Bethan Gibson
Disgrifiad o’r llun,

'Erbyn y Pasg dwi'n gobeithio y byddwn mewn sefyllfa well,' medd Dr Bethan Gibson

Wrth edrych yn ôl ar 2020 dywed Dr Bethan Gibson sy'n gweithio yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, ei bod wedi bod yn flwyddyn hynod o anodd ond blwyddyn lle mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi dysgu nifer o wersi a hynny er gwell.

"Mae yna lot llai o red tape yn y GIG nawr," meddai, "ac ry'n wedi dysgu sut i gynnal ein gilydd. Rywsut mae'r ysbyty i gyd wedi dod at ei gilydd ac mae hynny'n beth da.

"Doeddwn i erioed yn meddwl y buaswn yn gweithio drwy bandemig.

"Fel arfer yn fy ngwaith i yn yr Uned Gofal Dwys dod ar draws pobl hŷn ydw i, ond gyda Covid mae pobl o bob oedran wedi bod yn cael triniaeth gofal dwys - yn eu plith pobl yn eu hugeiniau.

"Weithiau mae mwy nag un aelod o'r un teulu - ac mae siarad â gweddill y teulu dros y ffôn wedi bod yn hynod o anodd ac yn aml 'dan ni wedi gorfod dweud wrthynt bod rhywun wedi marw.

'Wedi crio mwy eleni'

"Fel arfer rhyw 20% mewn Uned Gofal Dwys sy'n marw ond gyda Covid mae'r nifer yn aml wedi codi i 50%.

"Dwi wedi crio mwy yn y flwyddyn ddiwethaf nad wyf i erioed wedi ei wneud yn fy holl yrfa fi i fod yn onest, ac mae wedi bod yn anodd gweld tîm o gwmpas fi'n crymblo - anodd gweld y nyrsys a'r doctoriaid gorau yn stryglo o dan y pwysau.

"Ond mae'n rhaid meddwl am yr ochr bositif - dwi wedi gweithio mewn tîm anhygoel drwy'r cyfnod lle mae pawb wedi tynnu at ei gilydd, wedi edrych ar ôl ei gilydd a pharhau i gynnal safonau uchel.

BethanFfynhonnell y llun, Bethan Gibson
Disgrifiad o’r llun,

'Weithiau mae mwy nag un aelod o'r un teulu - ac mae siarad â gweddill y teulu dros y ffôn wedi bod yn anodd'

"Mae wedi bod yn balans anodd iawn edrych ar ôl y cleifion sydd â Covid a'r rhai sydd heb Covid gan beidio trosglwyddo'r haint.

'Wedi gweld y gorau mewn pobl'

"Dwi'n teimlo ar ôl eleni ei bod hi'n haws recriwtio pobl i weithio yn yr uned - mae mwy o bobl yn sylweddoli bellach beth yw ein gwaith ni.

"Yn amlwg 'dan ni ddim allan o Covid eto wrth i amrywiadau o'r haint ddatblygu ond mae cael brechlyn yn golygu bod golau ar ddiwedd y twnnel.

"Erbyn y Pasg dwi'n gobeithio y byddwn mewn sefyllfa well ond mae'r cyfan yn mynd i gael effaith ar restrau aros am flynyddoedd i ddod," ychwanegodd. "Fe fyddwn yn trio dal fyny am hir iawn iawn ond mae 2020 wedi cyflwyno nifer o bethau da ac wedi newid trefn o weithio ac ry'n yn sicr wedi gweld y gorau mewn pobl."

Pynciau cysylltiedig