Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 QPR

  • Cyhoeddwyd
QPRFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chris Willock yn dathlu ar ôl sgorio i QPR yn yr ail hanner

Cynyddu mae'r pwysau ar reolwr Caerdydd Neil Harris wedi i'r Adar Gleision golli adref yn erbyn QPR nos Fercher.

Roedd y glaw trwm a'r diffyg cyfleoedd yn golygu fod yr hanner cyntaf yn un i'w anghofio.

Yn ystod yr ail hanner fe gafodd gôl Charlie Austin i QPR ei gwrthod cyn i Chris Willock roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi 70 munud gydag ergyd i'r gornel isaf.

Fe wnaeth arbediad gwych gan Alex Smithies wadu gôl Macauley Bonne i'r ymwelwyr.

Roedd gan QPR reswm i ddiolch i'w golwr Seny Dieng am gadw eu mantais, ac yntau'n arbed ergydion Leandro Bacuna a Kieffer Moore.

I Gaerdydd, hon oedd y chweched gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth iddyn nhw ei cholli, ac maen nhw bellach 13 pwynt islaw'r chwe safle uchaf yn y Bencampwriaeth.