Caerdydd yn diswyddo eu rheolwr Neil Harris

  • Cyhoeddwyd
Neil HarrisFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi diswyddo eu rheolwr Neil Harris wedi i'r Adar Gleision golli chwe gêm yn olynol.

Fe fydd Harris, 43, a'r rheolwr cynorthwyol David Livermore yn gadael y clwb ar unwaith.

Y golled yn erbyn QPR nos Fercher oedd y bumed gêm o'r bron i'r clwb ei golli yn y Bencampwriaeth, a'r chweched ymhob cystadleuaeth.

Mae Caerdydd yn 15fed yn yr adran, 13 pwynt i ffwrdd o safleoedd y gemau ail gyfle, a naw phwynt o'r safleoedd sydd yn disgyn i Adran Un.

Fe gafodd Harris ei benodi'n reolwr ar y clwb ym mis Tachwedd 2019 yn dilyn ymadawiad Neil Warnock.

Dywedodd y perchennog Vincent Tan: "Mae'r canlyniadau diweddar wedi bod yn wael felly doedd dim dewis ond diswyddo'r tîm rheoli."

Dywed Caerdydd y bydd rheolwr newydd yn cael ei benodi cyn hir.