Pedair canolfan frechu'n cau yn sgil rhybudd eira
- Cyhoeddwyd

Eira ar yr M4 yn gynnar bore Sul yn ardal Cyffordd 24 Dwyrain Coldra ger Casnewydd
Mae pedair canolfan frechu wedi gorfod cau dros dro yn ne Cymru wrth i eira syrthio ar draws Cymru dros nos.
Bydd apwyntiadau yng nghanolfannau Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda, Abercynon a Merthyr Tudful ddydd Sul yn cael eu haildrefnu am resymau diogelwch, medd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Mae'r bwrdd yn annog pobl i ffonio'r rhif ar eu llythyrau apwyntiad os oes unrhyw gwestiynau.
Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am eira i rym ar draws mwyafrif Cymru i rym am 03:00 ac mae'n para tan 23:59 nos Sul.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i bob sir yng Nghymru oni bai am Ynys Môn.

Yr olygfa yn Y Drenewydd fore Sul
Mae'r heddlu'n rhybuddio bod yr amodau'r anodd oherwydd eira a rhew.
'Eira helaeth'
Mae yna ddarogan y gall hyd at 3cm o eira syrthio yn y rhan fwyaf o ardaloedd, a rhwng 10 a 15cm ym Mannau Brycheiniog ac Eryri.
Dywed Heddlu'r Gogledd ar Twitter bod yna "eira helaeth y bore ma', yn arbennig mewn rhai mannau uwch, gan wneud amodau gyrru'n anodd.
"Mae'r A499 ger Pwllheli wedi cael eira trwm dros nos. Os gwelwch yn dda, cymrwch ofal ychwanegol os rydych chi'n mynd allan a gyrrwch yn unol ag amodau'r ffordd."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod hi'n amhosib gyrru ar rai ffyrdd, gan gynghori pobl i aros adref.
Fe all y gostyngiad tymheredd ddwysáu problemau wedi'r llifogydd yn dilyn Storm Christoph.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall teithwyr ddisgwyl teithiau hirach, er bod cyfyngiadau coronafeirws yn caniatáu teithiau hanfodol yn unig.
Fe all yr eira hefyd achosi toriadau cyflenwad trydan ac effeithio ar wasanaethau ffôn.
Mae yna gyngor i bobl gymryd pwyll wrth fynd allan i ymarfer corff ar ffyrdd, palmentydd a llwybrau seiclo all fod yn llithrig.

Map y rhybudd melyn am eira sydd mewn grym tan 23:59 nos Sul