Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Millwall

  • Cyhoeddwyd
MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y cawr o Gymro, Kieffer Moore, rwydodd i unioni'r sgôr

Brwydrodd Caerdydd yn ôl i ennill pwynt yn erbyn Millwall yng ngêm gartref gyntaf y rheolwr Mick McCarthy.

Roedd gôl Kieffer Moore wedi 71 munud yn ddigon i sicrhau gêm gyfartal yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Gôl i'w rwyd ei hun gan Aden Flint a roddodd yr ymwelwyr ar y blaen ar yr egwyl.

Fe allai cyn ymosodwr Caerdydd, Kenneth Zohore, fod wedi ei ennill y gêm yn hwyr i'r ymwelwyr, ond fe fethodd ddau gyfle euraidd.

Mae Caerdydd yn aros yn 15fed yn y tabl.