Y Bencampwriaeth: Rotherham 1-3 Abertawe
- Cyhoeddwyd
![Conor Hourihane](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E9EB/production/_116738895_gettyimages-1230872170.jpg)
Conor Hourihane sgoriodd y gôl agoriadol - ei ail ers ymuno ar fenthyg o Aston Villa
Mae Abertawe wedi cau'r bwlch rhyngddyn nhw a Norwich City ar frig y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth yn Rotherham United.
Rhoddodd Conor Hourihane yr Elyrch ar y blaen, cyn i Matt Grimes ddyblu'r fantais o 20 llath.
Brwydrodd Rotherham yn ôl ar ôl yr egwyl gyda'r eilydd Freddie Ladapo yn rhwydo gyda'i ben ar ôl tafliad hir.
Fe wnaeth Abertawe wrthsefyll cyfnod hir o bwysau cyn i Jay Fulton sicrhau'r fuddugoliaeth, ychydig eiliadau ar ôl dod ar y cae.
Mae seithfed gêm gynghrair yn ddiguro yn golygu bod yr Elyrch bellach ddau bwynt o flaen Brentford yn y trydydd safle, a phedwar pwynt y tu ôl i Norwich.