'Dyn heb gael gwybod am ddiagnosis AIDS am 18 mis'

  • Cyhoeddwyd
Kevin SlaterFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kevin Slater yn derbyn triniaeth yng Nghaerdydd

Clywodd ymchwiliad sut i ddyn gyda haemoffilia o Gwmbrân farw o AIDS yn y 1980au ar ôl cael ei heintio gan waed nad oedd yn ddiogel.

Roedd Kevin Slater yn 20 oed pan ddatblygodd cyflwr AIDS, y claf cyntaf yn y DU gyda haemoffilia i ddod yn HIV positif a marw.

Mae haemoffilia yn gyflwr sy'n effeithio gallu'r corff i geulo gwaed. Yn y 1980au, roedd rhai o'r rhoddion gwaed oedd yn cael eu defnyddio i drin y salwch wedi eu heintio gyda HIV.

Mae'r ymchwiliad yn casglu tystiolaeth i'r sgandal, ac fe glywodd y gwrandawiad na chafodd Mr Slater wybod am ei ddiagnosis am o leiaf blwyddyn a hanner.

Bu farw'n 22 oed yn 1985.

Dywedodd chwaer-yng-nghyfraith Mr Slater, Linda Maule, nad oedd hi'n credu iddo fyth gael gwybod fod ganddo AIDS.

"Cafodd ei drin yn ofnadwy. Doedd yna ddim gofal, dim byd.

"Y ffordd gafodd ei drin, ei roi mewn ystafell ar wahân, prydau yn cael eu rhoi o ochr arall y drws.

"Tua'r diwedd roedd yn cael ei fwydo gan ei rieni, oherwydd nad oedd o'n ddigon cry' i godi o'r gwely", meddai.

"I ddweud y gwir yn onest dwi ddim yn meddwl fod neb wedi dweud wrtho."

'Dim atebion'

Fe wnaeth brawd Mr Slater, Paul oedd hefyd yn haemoffiliac, farw o AIDS yn 1991 ar ôl derbyn gwaed wedi ei heintio.

"Roedd fy merch ond yn 10 oed pan fu farw ei thad, meddai Ms Maule.

"Roedd y bechgyn yma yn dibynnu ar blasma.

"Dyna oedd y driniaeth oedd yn eu cadw yn fyw ac i feddwl fod pobl yn rhoi gwaed yn gwbl ddiniwed i helpu pobl fel Paul a Kevin a ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.

"Pam nad oedd sgrinio... mae'r holl gwestiynau hyn a dim atebion."

Ffynhonnell y llun, PA

Fe wnaeth yr ymchwiliad glywed na wnaeth ymgynghorydd, yr Athro Arthur Bloom, ddweud wrth y gymuned haemoffilig yn syth ei fod yn trin claf gydag AIDS.

Roedd hyn er gwaetha'r ffaith fod AIDS wedi ei gofnodi fel yn debygol ar gofnodion meddygol Mr Slater.

Am nifer o fisoedd fe wnaeth yr Athro Bloom barhau i ddisgrifio'r achos i swyddogion a theuluoedd fel un 'posib' neu 'wedi ei amau' ond nad oedd cyswllt wedi ei gadarnhau.

Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad, Syr Brian Langstaff, fod y disgrifiadau yma yn anodd i'w hamddiffyn.

Clywodd yr ymchwiliad fod tua 100 o gleifion haemoffiliig yng Nghymru ar y pryd.

Mae'r gwrandawiad yn parhau.

Pynciau cysylltiedig