Gwyddonwyr o Gymru mewn ras i achub bywydau
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i ail-bwrpasu cyffuriau er mwyn cynorthwyo cleifion Covid-19 lle mae problemau ychwanegol yn bodoli.
Er bod cynllun brechu Cymru'n cyflymu, does yr un o'r brechlynnau'n gallu amddiffyn pawb, ac mae'n bosib y gallent fod yn llai effeithiol yn erbyn amrywolion newydd o Dde Africa a Brasil.
A beth am bobl sy'n methu cael brechlyn mewn gwledydd tlotach, neu sy'n diodde' o Covid hir?
Dyma rai o'r atebion mae gwyddonwyr Caerdydd yn gobeithio dod o hyd iddynt, yn ogystal â helpu'r rhai sy'n methu cael brechlyn.
Ond lle mae dechrau chwilio?
Yn labordai ymchwil Prifysgol Caerdydd mae 'na ras ar waith, a buddsoddiad o £50,000 gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu chwilio am driniaethau all achub bywydau.
Tu fewn i'n celloedd ni mae 'na brotein arbennig sy'n cludo bwyd - NTC1.
Ond dyma'r protein y mae'r coronafeirws newydd yn ei ddefnyddio'n gyfrwys, fel drws cefn i ymosod arnon ni.
Y protein NTC1 yw arbenigedd Dr Helen Waller-Evans, sydd wedi astudio ym mhrifysgolion Caerfaddon, Rhydychen a Sefydliad Weizmann Israel.
Mae hi a'i thîm o wyth yn ceisio dod o hyd i'r arfau newydd.
"Dyw brechlyn ddim yn gweithio 100% o'r amser, a hefyd mae 'na versions newydd o'r feirws yn dod i fyny ymhobman fel De Affrica a Brasil, ac mae'n bosib na fydd y brechlyn yn gweithio gymaint yn erbyn nhw.
"Ond hefyd 'da ni'n meddwl bod protein NTC1 yn cael effaith hefyd ar long-Covid ac ar hyn o bryd does yna ddim byd sy'n gallu helpu pobl sydd â long-Covid."
Mae'r gwaith yma yn rhan o waith ehangach sefydliad darganfod meddyginiaethau'r brifysgol.
Yng nghanol y pandemig, mae arbenigwyr yn pwyso ar ddegawdau o brofiad - er mwyn dethol cyffuriau sy'n cael eu defnyddio'n barod i weld a ydy nhw'n effeithiol yn erbyn Covid-19.
Yr Athro Simon Ward yw cyfarwyddwr Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd: "Ry ni'n galw fe'n ail-bwrpasu, so lle mae'r cyffur yn bodoli, lle mae wedi cael ei gymeradwyo rywsut ac mae'n saff i'w ddefnyddio, mae'n gallu bod yn glou.
"Ni'n galli gwneud arbrofion yn glou iawn i weld a yw e'n effeithiol neu na.
"Mae'n cyflymu'r holl broses ac yn lot rhatach.
"Ond mae'n rhaid bod yn drylwyr, 'sdim rhuthro'r arbrofion.
"Rhaid bod yn hollol sicr bod nhw'n mynd i fod yn saff ac effeithiol."
'Potensial rhyngwladol'
Gyda Covid-19 yn newid ac addasu'n barhaus - mae'r gwyddonwyr yn gweld manteision eang o ddod o hyd i gyffuriau o'r fath.
"Ry ni'n arbrofi ar feirws byw" meddai Dr Helen Waller-Evans "a hefyd yn edrych a yw coronafeirysau eraill yn gweithio yn yr un ffordd achos mae dau coronafeirws arall sy'n effeithio ar bobl ond dim ond yn achosi annwyd.
"Tase nhw'n gweithio yn yr un ffordd a Sars-Cov-2 i mewn i'r celloedd bydde ni'n gallu 'neud screens ar gyfer meddyginiaethau gwell ar eu cyfer nhw hefyd."
Eilio hynny y mae ei gŵr Dr Emyr Lloyd-Evans sy'n arwain grŵp ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n gweld potensial rhyngwladol.
"Fel gyda Dexamethasone yn ddiweddar, cyffuriau sy'n gallu achub bywydau pobl.
"Os oes unrhyw brinder ar y brechlyn wrth fynd ymlaen fel mewn gwledydd tlotach, mae'n bosib y byddai datblygu cyffuriau fel yma'n helpu'n anhygoel, 'efo gwledydd sy'n arafach gyda'r brechu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2020