Symud S4C yn achosi problemau i wasanaethau Clic a BBC iPlayer
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi ymddiheuro am broblemau technegol sydd yn effeithio ar rai gwasanaethau'r sianel.
Dywed S4C fod y problemau'n eu hatal rhag llwytho rhai rhaglenni ar lwyfannau Clic a BBC iPlayer.
Awgrymodd y prif weithredwr, Owen Evans, na fyddai modd datrys y broblem tan ar ôl y penwythnos.
Ar 27 Ionawr, fe ddarlledodd S4C o'r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd am y tro cyntaf., dolen allanol
Bu'r sianel yn darlledu o Barc Tŷ Glas, Llanisien ers dechrau'r 90au, a chyn hynny o Glós Sophia ers lansio'r sianel Gymraeg yn 1982.
Ond mae gwasanaeth Clic ac iPlayer bellach yn cael eu bwydo o'r Sgwâr Canolog.
"Ar y cyfan mae pethau wedi mynd yn llyfn iawn," meddai Mr Evans mewn neges at wylwyr y sianel brynhawn Iau.
"Ond rydym wedi profi rhai problemau gydag S4C Clic - yn arbennig felly gyda rhaglenni ar-alw S4C Clic a rhai gwasanaethau eraill e.e. is-deitlau.
"Rydym yn ymddiheuro yn fawr am hyn ac mae darparwyr technegol S4C yn gweithio'n galed i ddatrys y problemau."
Ychwanegodd: "Rwy'n gobeithio y bydd pethau'n gwella ar ôl y penwythnos, ond byddai'n cysylltu eto dechrau'r wythnos er mwyn eich diweddaru.
"Yn y cyfamser hoffwn eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr fod S4C Clic yn ôl i'r arfer cyn gynted â phosib."
Dywedodd S4C wrth Cymru Fyw bod modd gwylio rhaglenni yn fyw ar Clic ac ar iPlayer.
"Ond mae nam technegol ar hyn o bryd wrth wylio rhai rhaglenni ar alw, ac wrth wylio rhai rhaglenni gydag is-deitlau ar y ddau lwyfan," meddai llefarydd.
Bydd tua 25 o staff yn gweithio i S4C o swyddfa newydd y sianel yn y Sgwâr Canolog, gan gynnwys yr Adran Gyflwyno, Llyfrgell, Hyrwyddo a Masnachol.
Yn sgil cyfyngiadau Covid-19 bydd nifer o'r staff yn parhau i weithio o adref am y tro, meddai S4C.
Bydd pencadlys y sianel yn parhau yng Nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin.