Y Bencampwriaeth: Bryste 0 - 2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Daeth rhediad hiraf Caerdydd heb fuddugoliaeth yn y bencampwriaeth mewn pum mlynedd i ben brynhawn Sadwrn, wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Bryste.
Ar ôl methu sicrhau buddugoliaeth mewn saith gêm daeth peniad yr un gan Curtis Nelson a Kieffer Moore o fewn 25 munud, gyda Mick McCarthy yn ennill ei dri phwynt cyntaf fel rheolwr yr Adar Gleision.
Daeth peniad Nelson o ganlyniad i gic rydd Harry Wilson, cyn i Moore gicio i'r rhwyd diolch i groesiad gan Sheyi Ojo.
Roedd gan Bryste ddigon o feddiant ond fe fethon nhw a dod yn agos at Gaerdydd drwy gydol y gêm.
Er hynny, cafodd yr Adar Gleision ddechrau digon simsan pan nododd gôl-geidwad Caerdydd, Alex Smithies, wrth y dyfarnwr ei fod yn teimlo'n sâl, a bu'n rhaid stopio'r chwarae am wyth munud wrth i barafeddygon fynd ato.
Cafodd ei bwysau gwaed ei gymryd cyn gadael y cae, gyda'r rheolwr McCarthy yn dweud ar ôl y gêm fod y chwaraewr yn teimlo'n well.
Fe arweiniodd hyn at ymddangosiad cyntaf Dillon Phillips yn y gynghrair a bu'n rhaid iddo ymateb yn syth pan geisiodd Henri Lansbury rwydo ar ran y tîm cartref..
Roedd yn ddechrau gwych i dîm o Gaerdydd sydd wedi cwympo ar ei hôl hi yn amlach na pheidio'r tymor hwn.