Cwpan FA Lloegr: Abertawe 1-3 Manchester City
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe allan o gystadleuaeth Cwpan FA Lloegr eleni ar ôl colli o 3-1 i Manchester City yn y bumed rownd yn Stadiwm Liberty.
Roedd eu rheolwr Steve Cooper wedi dweud cyn y gêm bod angen i'w dîm, sy'n drydydd yn y Bencampwriaeth, chwarae'n berffaith i guro'u gwrthwynebwyr nos Fercher.
Ond roedd sawl enghraifft o golli meddiant, ac roedd y tîm sydd â phum pwynt o fantais ar frig yr Uwch Gynghrair yn rhwym o wneud y gorau o'u camgymeriadau.
Roedd gôl gyntaf yr ymwelwyr, ergyd droed dde o bell gan Kyle Walker wedi hanner awr, yn un siomedig i'w hildio gan fod croesiad Rodri ato mor araf.
Jay Fulton gafodd cyfle gorau Abertawe yn yr hanner cyntaf a orffennodd â sgôr o 0-1.
Yn anffodus i'r tîm cartref, fe ddyblodd fantais chwaraewyr Pep Guardiola ar ddechrau'r ail hanner. Raheem Sterling a gafodd y gorau o un-am-un gyda Freddie Woodman gan roi'r bêl heibio'r golwr.
Ychydig funudau wedi hynny roedd Gabriel Jesus wedi rhwydo trydedd gôl Manchester City wedi i'r Elyrch ildio meddiant unwaith yn rhagor, a'r fuddugoliaeth wedi'i selio i bob pwrpas wedi 50 munud o chwarae yn unig.
Daeth llygedyn o obaith wedi 77 o funudau gyda gôl gyntaf Morgan Whittaker yn ei ymddangosiad cyntaf i Abertawe ers ymuno o Derby County.
Ond roedd perfformiad proffesiynol yr ymwelwyr yn amlygu'r bwlch rhwng y ddau dîm ac roedd y buddugwyr yn llawn haeddu'r lle yn wyth olaf Cwpan FA eleni a chadw'r freuddwyd o gipio pedwar tlws eleni'n fyw.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Manchester City wedi ennill 15 gêm yn olynol ymhob cystadleuaeth a thorri'r record flaenorol gan dimau Preston yn nhymor 1891-92 ac Arsenal yn 1987-88.