Ciwio o achos problemau technoleg canolfannau brechu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Canolfan frechu yn Sblot, Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 80 o bobl wedi bod y ciwio tu allan i'r ganolfan frechu yn Sblot, Caerdydd

Mae canolfannau brechu torfol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg wedi cael eu heffeithio gan broblemau technolegol cenedlaethol sydd wedi arwain at giwiau fore Iau.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro eu bod wedi "profi problemau gyda'r systemau... sydd yn anffodus yn arwain at giwiau wrth i ni brosesu ein cleifion".

Cyhoeddodd y bwrdd iechyd am tua 11:30 bod y problemau wedi eu datrys yn dilyn ymchwiliad, dolen allanol.

Ond ar un cyfnod roedd mwy na 80 o bobl yn sefyll mewn tywydd rhewllyd yn aros am eu pigiadau yn y ganolfan frechu yn Sblot.

Ian Horwood, 70,
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ian Horwood, 70, nad oedd am droi'n ôl er gwaethaf yr oerfel

Cyrhaeddodd Ian Horwood, 70 o'r Barri, y ganolfan yn Sblot am 10:20 ar gyfer apwyntiad 10:50. Roedd yn dal yn y ciw am 11:10 gyda'r tymheredd ar 1 radd.

Mae'n gofalu am ei wraig sy'n cysgodi. Cafodd hi ei brechu ym mis Ionawr.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl bod yn sefyll yma yn yr oerfel," meddai.

"Rwy'n numb ond does dim ffordd rydw i'n mynd i droi o gwmpas a mynd adref.

"Mae angen i mi gael y pigiad yma, rydw i'n gofalu am fy ngwraig, rydw i'n gwneud yr holl siopa."

Mae canolfannau torfol y bwrdd iechyd yn Sblot, Pentwyn a'r Barri.

ciwio splott
Disgrifiad o’r llun,

Gaynor Kingman (dde) a dwsinau o bobl yn y ciw yn Sblot

Dywedodd Gaynor Kingman o Gaerdydd ei bod yn oer, ond ei bod yn benderfynol o aros a chael ei brechiad.

Cyrhaeddodd chwarter awr cyn ei hapwyntiad 11:30, gyda mwy na 50 o bobl yn ciwio o'i blaen.

"Mae braidd yn oer. Dywedodd fy ngŵr a awn ni adref, ond yna byddai'n rhaid i ni ei aildrefnu felly mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen," meddai.

Dywedodd gwirfoddolwr yn y ganolfan yn Sblot wrth y BBC: "Mae rhai problemau wedi bod gyda'r cyfrifiadur ond mae'n cael ei ddatrys nawr. Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd.

"Rydw i wedi bod yn y ganolfan ym Mhentwyn ac yma [yn Sblot] ac mae wedi bod yn mynd fel cloc, ond mae'r staff yn mynd trwyddyn nhw [y brechiadau] nawr."

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i frechu 20% o'i phoblogaeth. Roedd 684,087 o bobl yma wedi cael un brechiad erbyn ddydd Iau.