Cyn-asgellwr Caerdydd wedi'i wahardd am gymryd cocên

  • Cyhoeddwyd
NMLFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Mendez-Laing 92 ymddangosiad i'r Adar Gleision, gan sgorio 14 gôl

Dywed Nathaniel Mendez-Laing ei fod am symud ymlaen gyda'i yrfa ar ôl cwblhau gwaharddiad am ddefnyddio cocên.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA) wedi datgelu bod y dyn 28 oed wedi derbyn gwaharddiad o dri mis ar ôl prawf cyffuriau positif ar 4 Gorffennaf y llynedd.

Cafodd Mendez-Laing ei ryddhau gan Gaerdydd ym mis Medi 2020 am yr hyn a alwai'r clwb yn "achos honedig o dorri cytundeb".

Ond ni chafodd unrhyw reswm penodol ei roi ar y pryd.

Dywedodd yr FA fod yr asgellwr - sydd bellach yn chwarae i Middlesbrough - wedi cyfaddef iddo gymryd cocên "mewn cyd-destun nad yw'n gysylltiedig â pherfformiad chwaraeon".

Fe allai chwarae i Boro - sy'n cael eu rheoli gan gyn-reolwr Caerdydd, Neil Warnock - am y tro cyntaf yn erbyn Derby yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

'Pawb yn gwneud camgymeriadau'

"Gyda chymorth fy nheulu, ffrindiau agos, fy asiant, a'r PFA [Cymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol] yn ystod yr amser hynod anodd hwn, rwyf wedi gallu goresgyn fy rhwystrau personol, i ganolbwyntio, a buddsoddi fy amser i weithio'n galed, yn benderfynol o ddychwelyd i bêl-droed," meddai Mendez-Laing wrth y BBC mewn datganiad.

"Rwy'n gwerthfawrogi'r holl gefnogaeth a roddwyd i mi drwyddi draw. Rwyf am adael y cyfnod hwnnw o fy mywyd yn y gorffennol lle mae'n perthyn.

"Rwy'n gyffrous am y dyfodol ac yn falch iawn o fod yn ôl yn gwneud yr hyn rwy'n ei garu."

Roedd cyn-asgellwr Wolves, Peterborough a Rochdale yn rhan o dîm Warnock a enillodd ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair gyda Chaerdydd yn 2018.

"Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwneud camgymeriadau," meddai Warnock yr wythnos ddiwethaf, wrth gyfeirio at Mendez-Laing.