Cogydd yn obeithiol er gwaethaf y sefyllfa i fwytai

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
James Sommerin a'i ferchFfynhonnell y llun, James Sommerin
Disgrifiad o’r llun,

James Sommerin a'i ferch

Mae un o gogyddion mwyaf Cymru yn obeithiol am y dyfodol er gwaethaf 12 mis anodd i'w ddiwydiant ac i'w fusnesau ei hun.

Er iddo golli ei fwyty seren Michelin yn ystod argyfwng Covid a rhoi ei fenter ddiweddaraf ar stop ar ôl dim ond 29 diwrnod, mae James Sommerin yn teimlo'n obeithiol.

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn drasig cyn belled ag y mae'r bwyty yn y cwestiwn ond mae hi hefyd wedi bod yn flwyddyn anhygoel," meddai.

Mae bwytai yng Nghymru wedi cau ers ychydig cyn y Nadolig oherwydd y cyfnod clo diweddaraf.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ddydd Gwener nad yw'n "amhosib" ailagor bwytai a thafarndai "os fydd pethau'n parhau i wella".

Yn siarad gyda'r BBC, dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn credu bod ailagor y sector yn afrealistig os ydy achosion Covid-19 yn parhau i gwympo.

Ond ychwanegodd y byddai unrhyw lacio ar y cyfyngiadau i'r sector yn digwydd yn "raddol".

Llynedd fe gafodd busnesau lletygarwch agor y tu allan cyn cael croesawu cwsmeriaid dan do.

Ffynhonnell y llun, James Sommerin
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd James Sommerin ei fwyty newydd The Shed yn y Barri yn ystod y pandemig

"Unwaith y bydd pawb wedi cael eu brechlyn, neu fod y mwyafrif wedi cael, rwy'n credu y bydd hi'n flwyddyn dda iawn," meddai.

"Mae'n rhaid i chi gael y gwydr bob amser yn hanner llawn, byth yn hanner gwag."

Ond cyfaddefodd ar ôl cau Bwyty James Sommerin ym Mhenarth, Bro Morgannwg, ei bod wedi cymryd peth amser iddo gyrraedd y rhagolygon yma.

"Pan gollon ni'r bwyty wnaethon ni ddim colli cyflog yn unig, fe wnaethon ni golli popeth," meddai.

Dywedodd fod y "lefelau rhent pur" a pheidio â bod yn gymwys i gael cymorth oherwydd eu bod yn uwch na'r trothwy gwerth ardrethol o £51,000 yn golygu na allan nhw barhau.

"Chawson ni ddim cefnogaeth, felly fe gollon ni'r bwyty," meddai.

"Ond mae'n rhaid i mi fod yn bositif, wyddoch chi, mae pethau'n digwydd am reswm mewn bywyd. Mae'n rhaid i ni addasu a goresgyn."

Dywedodd fod darparu prydau bwyd i weithwyr y GIG trwy'r fenter Feed the Heath wedi bod yn uchafbwynt: "Mae'r bobl hynny wir yn gwneud y gwaith caled ar y rheng flaen."