Y Bencampwriaeth: Caerdydd 4-0 Preston
- Cyhoeddwyd
Curodd Caerdydd Preston yn gyfforddus mewn gêm gyffrous ddydd Sadwrn.
Sgoriodd Caerdydd yn eiliadau agoriadol y ddau hanner, gyda Kieffer Moore yn sgorio cic gosb a Josh Murphy'n sgorio yn yr ail hanner.
Arbedodd golwr yr adar gleision Dillon Phillips dwy gic gosb mewn un munud, yn atal Preston rhag sgorio.
Marlon Pack sgoriodd trydydd gol y gêm, wedi'i ddilyn gan Mark Harris gyda'r pedwerydd.
Dydy Caerdydd heb golli dim o'i saith gêm ddiwethaf o dan arweiniant Mick McCarthy, ac mae ei bumed fuddugoliaeth yn symud nhw nol o fewn tri phwynt o gael lle yn y gemau ail gyfle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2021