FSB: Nifer o gwmnïau 'heb glywed' am gynlluniau ailagor

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Hiatus
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i siop Hiatus yn Abertawe, fel nifer yng Nghymru, oedi agor oherwydd y pandemig

Dyw nifer o gwmnïau "heb glywed dim" gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw gynllunio i ailagor yn dilyn y cyfyngiadau coronafeirws presennol, yn ôl y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB).

Galwodd Ben Cottam, pennaeth yr FSB yng Nghymru, am fwy o sicrwydd a manylion ynglŷn â'r amodau ar gyfer codi'r mesurau clo.

Dywedodd fod "perygl gwirioneddol" y bydd busnesau twristiaeth yn arbennig yn colli cryn dipyn o fasnach dros y Pasg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr amrywiolion coronafeirws newydd yn golygu na allant ddarparu cymaint o sicrwydd ag yr hoffent, gan ddadlau mai ei phecyn cymorth busnes yw'r mwyaf hael yn y DU.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Mr Cottam ei fod yn "croesawu" bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o fanylion i fusnesau manwerthu a chyswllt agos ynglŷn â'r llwybr allan o'r cyfyngiadau ddydd Gwener.

"Yr hyn rydyn ni eisiau ei weld yw sgwrs gliriach nawr am yr hyn y bydd angen i fusnesau ei wneud yn y cyfamser cyn ailagor."

"Rydym yn gwybod y bydd busnesau'n awyddus iawn i sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n llwyr er mwyn cynnal diogelwch, felly mae angen sgwrs arnom nawr gyda'r llywodraeth ynghylch yr hyn y mae angen i fusnesau ei wneud."

'Rhwystredig iawn i fusnesau'

Roedd Mr Cottam yn dadlau nad oedd hyn wedi digwydd wrth i'r wlad ddod allan o fesurau cloi tebyg y llynedd.

"Mae wedi bod yn rhwystredig iawn i fusnesau mai'r diwrnod maen nhw'n gallu ailagor maen nhw'n cael y canllawiau."

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i gynnig sicrwydd cyllid i fusnesau hefyd yn ogystal â gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod negeseuon ac amodau masnachu yn gyson ac nad yw busnesau mewn gwahanol rannau o'r DU o dan anfantais.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ben Cottam wedi galw am fwy o sicrwydd

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod pawb eisiau sicrwydd ac i allu cynllunio ar gyfer y dyfodol, a bod busnesau eisiau agor a masnachu - rydyn ni eisiau i hynny ddigwydd cyn gynted ag y mae'n ddiogel i wneud hynny.

"Dyna pam, yr wythnos diwethaf, y nododd y Prif Weinidog gynllun ar gyfer dod â Chymru allan o gyfyngiadau Lefel 4.

"Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen yn y broses o gyflwyno brechlynnau, ond gyda'r amrywiolion newydd o coronafeirws, ni allwn ddarparu cymaint o sicrwydd ag yr hoffem."

"Ein pecyn cymorth busnes yw'r mwyaf hael yn y DU ac rydym wrthi'n adolygu ein hopsiynau ar gyfer darparu cymorth pellach i gwmnïau."

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £650m i helpu busnesau drwy'r cyfnod rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth yn ogystal â chronfa gymorth gwerth £180m ar gyfer busnesau yn y sector twristiaeth, lletygarwch a hamdden.

SiopPinc, Llandeilo

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nia Prytherch ei bod yn anodd cadw'n bositif

Mae Nia Prytherch yn rhedeg siop flodau Pinc yn Llandeilo.

Dywedodd fod y sefyllfa wedi bod yn un galed a'i bod hi wedi ei chael hi'n anodd aros yn bositif.

"Mae e wedi effeithio hyder busnesau ac wedi effeithio fy hyder i yn gyfan gwbl," meddai.

"Symoi di bod yn y siop yn iawn am flwyddyn a chi yn colli'r hyder a'r angen yna i fynd 'mlaen achos chi jyst ddim yn gwybod... a ma' hwnna i fi yn dorcalonnus.

"I redeg busnes chi gorfod bod yn berson positif a chael lot o syniadau i symud 'mlaen, ond mae'r flwyddyn ddiwetha' di bod yn glatsien anferth i unrhyw siop a busnes."

The Bay Bistro, Rhosili

Mae Sue Muddeman wedi rhedeg The Bay Bistro yn Rhosili ers 16 mlynedd.

Fel arfer, dim ond yn ystod misoedd y gaeaf maen nhw'n cyflogi staff craidd cyn ychwanegu at y niferoedd yn ystod y Pasg.

Erbyn yr haf, maen nhw'n cyflogi 30 o bobl.

Fe wnaethon nhw gau ychydig cyn y Nadolig a phenderfynu peidio ailagor a darparu gwasanaeth tecawê.

"Roedd gennym aelodau o staff a oedd yn byw gyda'u neiniau a theidiau ac nid oeddem yn teimlo ei bod yn ddiogel iddynt barhau i weithio yma, felly fe wnaethom gau'n llwyr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sue Muddeman y byddai'n ddiolchgar i gael cymaint o rybudd â phosib

Dywedodd Ms Muddeman er nad yw'n disgwyl dyddiad ailagor penodol gan Lywodraeth Cymru, byddai'n gwerthfawrogi cymaint o rybudd â phosibl er mwyn gwneud trefniadau ymarferol fel ble mae pobl yn ciwio ac a all cwsmeriaid ddefnyddio'r toiledau.

"Mae llawer o bethau y gallen nhw fod yn eu dweud wrthym nawr fel y gallem fod yn barod," meddai.

"Ni chawsom y canllawiau hynny y tro diwethaf.

"Ond y peth pwysicaf dwi'n meddwl yw i'r llywodraeth gadw'r trothwy TAW lawr i ni, mae hynny'n hanfodol i bob busnes mewn arlwyo."

Siop Hiatus, Abertawe

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Matt Bryer bod y misoedd diwethaf wedi bod yn "heriol"

Bu'n rhaid i Hiatus - siop syrffio a nwyddau awyr agored yn Abertawe - oedi agor oherwydd y pandemig.

Eglurodd cyfarwyddwr y cwmni, Matt Bryer, eu bod wedi llwyddo i agor siop ym mis Medi 2020, ond dywedodd fod y misoedd diwethaf wedi bod yn "heriol".

"Dydych chi erioed wedi gorfod bod mor ddeinamig. Rydym wedi colli cyfnodau manwerthu pwysig y flwyddyn gan gynnwys y Nadolig ac rydym hefyd yn delio â stoc dymhorol," meddai.

Mae'n dweud ei fod e'n teimlo bod sectorau eraill yn cael fwy o gefnogaeth ond dywedodd ei fod yn hyderus y bydd yn llwyddo yn y pendraw.