Adfer cyflenwadau trydan yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae cyflenwadau trydan wedi cael eu hadfer ar ôl i'r tywydd garw effeithio ar gyflenwadau i dair ardal yn y gogledd.
Fe wnaeth gwyntoedd cryfion hyd at 70mya dorri polion trydan mewn un ardal.
Cafodd "nifer fawr o adeiladau mewn ardal eang" eu heffeithio gan doriadau i gyflenwadau trydan yn ardaloedd cod post Caernarfon.
Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am law trwm yn rhannau helaeth o'r gogledd mewn grym ers 12:00 ddydd Mawrth, ac mae'n parhau tan 18:00 nos Fercher.
Erbyn bore Mercher mae llifogydd wedi cau priffordd yr A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog yng Ngwynedd, ac mae'r heddlu'n gofyn i bobl osgoi'r ardal.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi dau rybudd llifogydd a 15 rhybudd i baratoi am lifogydd yn dilyn y glaw trwm dros nos.
Mae'r ddau rybudd ar afon Rhyd Hir, Pwllheli a Dyffryn Dyfrdwy Isaf o Langollen i Ddolydd Trefalun.
Gallwch weld y 15 rhybudd paratoi ar dudalen arbennig ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.
Cofnodwyd gwyntoedd o 76 mya yng Nghapel Curig, 63mya yn Aberdaron a 62 mya ar safle'r Awyrlu yn Y Fali.
Polyn yn torri
Bu tai yn ardaloedd Dinorwig a Llanberis, ynghyd â rhai yn ardaloedd cod post Caernarfon wedi bod heb gyflenwad trydan ers 08.50 fore Mawrth.
Bu'n rhaid diffodd cyflenwadau trydan ar frys am 14:30 yn ardal Conwy wedi i bolyn trydan dorri.
Roedd sawl eiddo yn ardal Dinbych yn Sir Ddinbych hefyd heb drydan am gyfnod, gyda pheiranwyr yn adfer cyflenwadau ym mhentrefi Prion a Pheniel.
Mae'r rhybudd am law "trwm a pharhaus" yn berthnasol i siroedd Conwy, Môn, Gwynedd a Phowys gyda "llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau yn debygol" yn ogystal â pheth oedi wrth deithio.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai hyd at 50mm o law ddisgyn ar rannau helaeth o'r gogledd cyn nos Fercher, gyda hyd at 90mm mewn mannau yn Eryri.