Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-0 Coventry

  • Cyhoeddwyd
Ben CabangoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr amddiffynnwr ifanc, Ben Cabango sgoriodd yr unig gôl gyda pheniad o gic gornel

Mae Abertawe wedi llwyddo i gau'r bwlch ar y timau ar frig y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn erbyn Coventry yn Stadiwm Liberty.

Bu'n rhaid disgwyl nes dechrau'r ail hanner am unig gôl y gêm wrth i'r Cymro Ben Cabango benio i'r rhwyd o gic gornel Conor Hourihane.

Doedd yr Elyrch ddim ar eu gorau ond fe lwyddon nhw i gadw ymosod yr ymwelwyr yn dawel er mwyn selio'r triphwynt.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Abertawe yn aros yn y pedwerydd safle yn y tabl, bwynt yn unig o'r safleoedd dyrchafu awtomatig a gyda dwy gêm ychwanegol i'w chwarae o'i gymharu â'r timau eraill tua'r brig.