Y Bencampwriaeth: Bournemouth 1-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Kieffer MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kieffer Moore wedi sgorio saith gôl mewn wyth gêm ers i Mick McCarthy fod wrth y llyw

Mae rhediad gwych Caerdydd yn parhau wedi iddyn nhw drechu Bournemouth oddi cartref nos Fercher.

Daeth y gôl gyntaf o gic gornel wedi ychydig yn llai na hanner awr, wrth i Sean Morrison benio croesiad y Cymro Harry Wilson i'r rhwyd.

O fewn 10 munud llwyddodd yr ymwelwyr i ddyblu eu mantais, gyda Chymro arall - Kieffer Moore - yn sgorio o'r smotyn

Mae Moore yn cael cyfnod euraidd ar hyn o bryd - hon oedd ei seithfed gôl mewn wyth gêm ers i Mick McCarthy gymryd yr awenau fel rheolwr.

Er i Bournemouth daro 'nôl gyda gôl gan Shane Long, roedd yr ymwelwyr eisoes wedi gwneud digon i sicrhau'r triphwynt.

Dyma oedd y chweched fuddugoliaeth yn olynol i'r Adar Gleision, a dyw'r tîm ddim wedi cael eu trechu ers i McCarthy fod wrth y llyw.

Mae'r canlyniad yn gweld Caerdydd yn codi'n uwch na Bournemouth yn y tabl i'r chweched safle - safle olaf y gemau ail gyfle.