Ymgynghoriad ar newid iaith dysgu plant yn 'afresymol'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol y FelinFfynhonnell y llun, Ysgol Y Felin
Disgrifiad o’r llun,

Mae 130 o ddisgyblion yr ysgol yn cael eu haddysg drwy'r Saesneg a 92 trwy'r Gymraeg

Mae cyngor sir wedi ei gyhuddo o ymddwyn yn afresymol mewn cyfnod o bandemig wrth gynnal ymgynghoriad ar newid iaith dysgu rhai disgyblion yn Ysgol Y Felin, Llanelli.

Ar hyn o bryd mae'r ysgol, sydd â dros 200 o ddisgyblion, yn ddwy ffrwd - mae 130 o ddisgyblion yn cael eu haddysg drwy'r Saesneg a 92 trwy'r Gymraeg.

Ddydd Llun fe agorodd ymgynghoriad gan Gyngor Sir Gâr sy'n argymell newid hynny a chynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn unig i ddisgyblion pedair i saith oed.

Ar ôl hynny byddai modd i rieni ddewis pa iaith y maen nhw am i'w plant gael eu haddysg.

Ond mae cangen o Undeb Unsain yn Sir Gaerfyrddin yn dweud bod ei aelodau, ac aelodau o undeb athrawon yr NEU yn Ysgol Y Felin, yn unedig yn eu gwrthwynebiad i'r cynnig.

Mae'n nhw'n cyhuddo'r cyngor o fod yn afresymol gan achosi gofid a straen i'w staff mewn cyfnod sydd eisoes yn heriol.  

Dyw Cyngor Sir Gâr ddim am wneud sylw tra bod ymgynghoriad yn mynd yn ei flaen.

Disgwyliadau 'afresymol'

Yn ôl Undeb Unsain yn Sir Gâr, fe gafodd aelodau dipyn o sioc pan gawson nhw wybod am y newidiadau arfaethedig fis diwethaf.

Dywed yr undeb bod aelodau yn poeni am ddyfodol eu swyddi os nad ydynt yn medru'r Gymraeg, ac mewn datganiad mae'r undeb yn dweud na fydden nhw'n oedi cyn cynnal pleidlais ar streicio os oes swyddi mewn perygl.

Mae'r ddau undeb, er hynny, am bwysleisio eu bod yn deall ac yn cytuno ag ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg, ond maent yn dweud bod yr amserlen a'r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig i staff i ddysgu Cymraeg yn annigonol.

Mewn datganiad maent yn dweud bod disgwyliadau'r cyngor yn afresymol.

Mae Unsain hefyd yn cwestiynu'r cynlluniau integreiddio pe bai Ysgol Y Felin yn newid yn y dyfodol i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg gan nodi bod uned anghenion ychwanegol yn yr ysgol.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Model
Disgrifiad o’r llun,

Wnaeth Cyngor Sir Gâr ddim bwrw ymlaen ag ymgynghoriad Ysgol Model yng Nghaerfyrddin

Roedd ymgynghoriad tebyg fod i'w gynnal ar gyfer Ysgol Model, sef Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghaerfyrddin, ond fore Llun fe benderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr i beidio â bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad hwnnw.

Dywedodd llefarydd eu bod wedi ailystyried ymgynghoriad Ysgol Model oherwydd sylwadau gan gorff llywodraethol yr ysgol - nodwyd nad oedd pob llywodraethwr ac aelod o staff yn gwbl ymwybodol o'r cynigion.

Fore Llun dywedodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr eu bod yn rhoi'r gorau i'r ymgynghoriad er mwyn cael amser i gysylltu'n llawn â'r corff llywodraethu a'r staff.

Dywed llefarydd ar ran Cyngor Sir Gâr nad yw'n briodol iddyn nhw ymateb i sylwadau'r undebau tra bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal ond maent yn annog pobl i gyflwyno eu sylwadau i'r ymgynghoriad.

Dywed Undeb yr NEU yn ganolog y byddan nhw'n cynnal cyfarfod ddydd Mawrth nesaf i drafod y mater.

Pynciau cysylltiedig