Sylwadau apartheid yn 'annerbyniol' ac 'amharchus'
- Cyhoeddwyd
Mae un o reolwyr sefydliad iechyd cenedlaethol wedi'i feirniadu'n hallt yn sgil ei sylwadau mewn ffrae dros newid rhai o ysgolion cynradd Sir Gâr yn ysgolion Cymraeg.
Datgelodd wefan Nation.Cymru, dolen allanol fod James Moore, un o reolwyr Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), wedi cymharu triniaeth pobl ddi-Gymraeg ag apartheid yn Ne Affrica.
Dywedodd ei bod hi'n amser i bobl ddi-Gymraeg ddal eu tir yn erbyn "gormeswyr".
Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan wedi gofyn am drafod y mater ar frys gyda chadeirydd AaGIC, sy'n adain o wasanaeth iechyd Cymru.
Dywed AaGIC nad ydyn nhw'n esgusodi nag yn cefnogi'r sylwadau a byddai'n amhriodol iddyn nhw wneud sylw ynghylch "trafodaethau mewnol gyda gweithiwr unigol".
Fe wnaeth Mr Moore ei sylwadau wrth ymateb ar Facebook i stori am gynigion Cyngor Sir Gâr i newid y ddarpariaeth i rai disgyblion rhwng pedair a saith oed a'u dysgu trwy Gymraeg.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts mewn datganiad ar-lein: "Mae'r gymhariaeth rhwng annog a datblygu strategaeth addysg Gymraeg yng Nghymru ac arwahanu hiliol yn Ne Affrica yn gwbl amharchus ac yn sylfaenol hanesyddol anghywir.
"Mae'r sylwadau a wnaed yn peri tristwch i mi, ac mae cyfateb polisïau Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd â brwydr apartheid yn dangos diffyg dealltwriaeth o hanes ein hiaith a'n diwylliant. Mae hon yn farn sydd, yn anffodus, yn dal i fod gan leiafrif."
Ychwanegodd bod rhoi ail iaith i blentyn yn "cyfoethogi" ei addysg plentyn ac yn rhan o strategaeth "sy'n denu cefnogaeth drawsbleidiol o fewn y Senedd" i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ymatebodd Eluned Morgan ar Twitter hefyd gan ddweud bod y sylwadau'n "gwbwl annerbyniol", a'i bod wedi gofyn am gyfarfod brys gyda chadeirydd y sefydliad sy'n cyflogi Mr Moore.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd Eluned Morgan hefyd ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru, lle dywedodd: "Yn amlwg mae'r sylwadau yn hollol annerbyniol a mae'n syndod imi bod y fath yma o beth yn cael ei ddeud yng Nghymru.
"Dwi wedi siarad gyda chadeirydd y bwrdd ynglyn â'r sefyllfa ac mae e wedi tanlinellu nad yw'r sylwadau yma yn adlewyrchu ymrwymiad y mudad i'r Gymraeg, ac mae nhw'n teimlo yn rhwystredig oherwydd nid dyma'r ffordd mae nhw'n gweithio y tu mewn i'r mudiad.
"Maen nhw'n deall bod angen iddyn nhw symud ymlaen yn y maes yma a bod rôl gynyddol bwysig gyda nhw i ddatblygu gweithlu sydd yn medru'r Gymraeg, yn arbennig yn y maes iechyd a gofal.
"Wrth gwrs mae o fyny i'r mudiad rwan i weld pa gamau sydd angen eu gwneud yn y maes yma."
Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â Mr Moore am ymateb. Atebodd AaGIC ar ei ran gan ddweud na fydd yn rhoi sylw.
Mewn datganiad, dywedodd AaGIC: "Rydym yn ymwybodol o'r sylwadau gan James Moore ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Cawsant eu gwneud mewn capasiti personol, ac nid mewn capasiti proffesiynol mewn unrhyw ffordd.
"Dydy AaGIC ddim yn esgusodi nac yn cefnogi unrhyw o'r sylwadau a wnaethpwyd. Ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw ynghylch trafodaethau mewnol gyda gweithiwr unigol."
Dywed y datganiad bod AaGIC "yn hollol ymroddedig i wella darpariaeth addysg iechyd yng Nghymru ac yn cydnabod pwysigrwydd cynyddol y Gymraeg o ran sicrhau gwell ganlyniadau clinigol".
Ychwanegodd bod y corff "wedi mabwysiadu egwyddor... trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal" er nad oes rhaid dan Fesur 2011, a'u bod wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar ynghylch eu cynllun iaith Gymraeg cyntaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021