Cymru ar stampiau'r byd
- Cyhoeddwyd
I feddwl mai sgwariau bach papur i'w gludo ar gongl amlen ydy nhw, mae'r stamp wedi creu cryn gynnwrf ers y 'peni blac' yn 1840.
Mae yna rai hen sydd werth ffortiwn, rhai difyr o dramor, rhai prin i'w casglu a chyfresi sy'n nodi digwyddiadau a phobl enwog.
A nawr mae llyfr Cymru ar Stampiau'r Byd, gan Twm Elias a Dafydd Guto, yn dangos nifer o rai gyda chysylltiad Cymreig.
Vinnie Jones
Byddai nifer o bêl-droedwyr yn cael chwys oer o glywed am stamp Vinnie Jones...
Ond digon diniwed ydi'r un yma - sef llun o'r chwaraewr caled ar un o stampiau lleol Ynysoedd Sili i ddathlu buddugoliaeth ei dîm Wimbledon dros Lerpwl yn ffeinal Cwpan FA Lloegr 1988.
Roedd taid y pêl-droediwr yn dod o Ruthun, felly roedd Vinnie yn gymwys i chwarae dros Gymru a bu'n rhan o'r tîm cenedlaethol naw gwaith yn yr 1990au.
Hughesovka
Mae'r diwydiannwr John Hughes nid yn unig wedi cael stamp i'w goffáu - ond dinas gyfan, fel yr eglurodd un o awduron Cymru ar Stampiau'r Byd Twm Elias ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru:
"Fe gafodd John Hughes ei wahodd ar ddiwedd yr 1860au i fynd drosodd i Rwsia a sefydlu diwydiant haearn yn yr Wcráin heddiw.
"Fe aeth â 100 o weithwyr haearn a glowyr drosodd efo fo a sefydlwyd trefedigaeth fach Gymreig yn yr ardal ac adeiladu ffwrneisi a chwilio am lo. Fe alwyd y ddinas yn Hughesovka ar ei ôl o ac roedd yn cynhyrchu dros dri chwarter haearn Rwsia o fewn ychydig o amser.
"Erbyn yr 1920au, gan fod y comiwnyddion mewn grym fe newidiodd yr enw i Stalino, doeddan nhw ddim eisiau coffáu rhyw cyfalafwr o Gymro, ond wrth gwrs pan aeth Stalin allan o ffasiwn fe newidiodd yr enw i Donetsk - a dyna'r enw heddiw.
"Mi gyhoeddodd yr Wcráin, yn groes i ddymuniad Rwsia, stampiau i goffau John Hughes a Hughesovka."
Burton a Lloyd George
Does ryfedd efallai bod wynebau dau o feibion enwocaf Cymru i'w gweld ar stampiau mewn gwledydd ar ochr arall y byd.
Richard Burton, yr actor aeth o Bont-rhyd-y-fen i Hollywood, sydd ar stamp yn Somalia, Affrica, ac yn Guyana, De America, mae stamp David Lloyd George, yr unig Gymro Cymraeg fu'n Brif Weinidog Prydain.
Llythyr cariad
Mae'n amlwg o'r stamp - a'r dyddiad - beth fyddai'n cael eu gyrru drwy'r post yn Awstralia gyda'r stampiau yma…
Catherine Zeta-Jones
Efallai bod Togo yn bell o'r Mwmbwls ond mae'r wlad yng ngorllewin Affrica wedi anrhydeddu'r actores fyd-enwog o ochrau Abertawe, Catherine Zeta-Jones, ar eu stampiau.
Elvis
Does yna ddim syndod bod Elvis ar stamp yn yr Unol Daleithiau... ond pam ei gynnwys mewn llyfr am gysylltiadau gyda Chymru?
"Pwy feddylia bod Elvis o dras Cymreig?!" meddai Twm Elias. "Mae'r cwbl yn yr enw - Elvis Presley. Y Preselau ydi Presley ac roedd ei deulu yn dod o Benrhyn Gŵyr mae'n debyg, ac wedi mynd i America.
"Ac mae Elvis yn ryw Ladineiddiad o'r enw gwreiddiol Cymraeg Sant Eilfyw, oedd yn gefnder i Dewi Sant - fo wnaeth fedyddio Dewi Sant ei hun. Ac enw brawd Elvis, fu farw ar enedigaeth, oedd Caron."
Tŷddewi
Mae dinas Santiago de Compestela wedi bod yn gyrchfan i bererinion ers canrifoedd. Ar y stamp yma sy'n dathlu blwyddyn sanctaidd Año Santo Compostelano, mae llun cyrchfan arall i bererinion yng Nghymru.
Anturiaethwyr cynnar
Yn nyddiau cynnar yr Unol Daleithiau, fe groesodd nifer fawr o anturiaethwyr gwyn ar draws Gogledd America.
Roedd sawl un o dras Cymreig, ac mae'r stampiau yma yn coffáu Meriwether Lewis, wnaeth gwblhau'r 'Daith Fawr' gyda William Clark; John Wesley Powell, ddilynodd yr afon Colorado drwy'r Ceunant Mawr yn 1869; a David Thompson, wnaeth fapio rhannau helaeth o Ganada.
Apollo 17
Anturiaethwyr cyfoes sy'n cael eu clodfori yn y stampiau yma - gofodwyr.
Yn eu plith mae 'Ron' Ellwin (Elwyn) Evans, o Seattle. Yn 1972 fo oedd peilot Apollo 17 ac roedd yn ddisgynnydd i Abner Evans (1726-1786) a ymfudodd o Sir Gaerfyrddin i Pennsylvania.
Cardigan Bay
Nage, nid y lleoliad hudolus yng Ngheredigion - ond ceffyl o'r un enw.
"Pwy feddylia bod ceffyl rasio o Seland Newydd o'r enw Cardigan Bay?," meddai Twm Elias. "A Colwyn Bay oedd enw ei fam o!
"Fe enillodd y ceffyl drwy Seland Newydd ac Awstralia yn ryfeddol ar ddechrau'r 1960au, ac yn 1964 aeth drosodd i America ac roedd yn llwyddiannus, a'r cynta' i ennill miliwn o ddoleri.
"Aeth y ceffyl ar yr Ed Sullivan Show a phan aeth yn ôl i Seland Newydd roedd yn arwr."
Cymaint o arwr fe'i rhoddwyd ar stamp yn 1968.
Hefyd o ddiddordeb: