Lloyd George mewn rhifau
- Cyhoeddwyd

Ar 7 Rhagfyr 1916 daeth y Cymro cyntaf yn Brif Weinidog Prydain. Dyma 'chydig o hanes David Lloyd-George mewn ffigyrau:


O fwyafrif o 18 pleidlais yn unig, mi gipiodd y cyfreithiwr ifanc o Lanymstyumdwy sedd Bwrdeistref Caernarfon mewn is-etholiad yn Ebrill 1890. Fe gynrychiolodd y sedd ar ran y Rhyddfrydwyr am 55 o flynyddoedd.


Bu farw Mair merch Lloyd George yn 17 oed yn ystod llawdriniaeth i dynnu ei phendics. Fe wnaeth ei ferch ieuengaf, Megan (chwith yn y llun) ddilyn ei thad i'r byd gwleidyddol fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Ynys Môn ac yn ddiweddarach yng Nghaerfyrddin dros y blaid Lafur. Daeth un o'i ddau fab, Gwilym, hefyd yn Aelod Seneddol ac yn Ysgrifennydd Cartref mewn Llywodraeth Geidwadol. Roedd y rhif 17 yn arwyddocaol hefyd gan mai 17 Ionawr oedd dyddiad pen-blwydd Lloyd George.


Fel Canghellor y Trysorlys cyflwynodd Lloyd George Yswiriant Gwladol gan osod seiliau'r Wladwriaeth Les. Roedd pawb oedd yn ennill llai na £160 y flwyddyn yn talu 4 ceiniog yr wythnos i'r gronfa er mwyn cael gofal iechyd. Byddai'r cyflogwr yn talu 3c a'r Llywodraeth yn talu 2c. Roedd y gofal iechyd rhad yn gyfyngedig ond roedd yn gam mawr ymlaen gan baratoi'r tir ar gyfer y gwelliannau mawr gafodd eu cyflwyno gan y Llywodraeth Lafur yn 1945.


Yn 1913 penderfynodd ymchwiliad seneddol nad oedd Lloyd George yn llwgr wedi iddo brynu 1,000 o gyfranddaliadau yng nghwmni Marconi. Roedd o a nifer o weinidogion eraill wedi buddsoddi yn y cwmni wedi i'r Llywodraeth roi cytundeb sylweddol i Marconi sefydlu gorsafoedd radio ar hyd a lled yr Ymerodraeth. Fe gododd gwerth y cyfranddaliadau yn gyflym a cafodd Lloyd George a'i gyfeillion eu cyhuddo o fanteisio ar wybodaeth nad oedd wedi ei datgelu yn gyhoeddus.


Wedi iddo olynu Asquith fel Prif Weinidog dim ond 5 aelod,gan gynnwys ef ei hun, oedd yn ei Gabinet Rhyfel cyntaf. Oherwydd hynny cafodd ei gyhuddo gan ei feirniaid o weithredu fel unben.


Dim ond 1 etholiad enillodd Lloyd George fel arweinydd. Roedd cael ei weld fel y 'dyn enillodd y Rhyfel' yn help i'w gadw a'r Glymblaid Ryfel mewn grym yn 1918. Ond erbyn 1922 roedd y Ceidwadwyr, a oedd yn y mwyafrif, wedi cael llond bol a daeth teyrnasiad Dewin Dwyfor ar y llwyfan mawr i ben.


Ar ddiwedd y Rhyfel Mawr yn 1918 roedd Lloyd George ymhlith arweinwyr 32 o wledydd y byd ddaeth ynghyd i Gynhadledd Versailles i arwyddo cytundebau heddwch ar ôl y cadoediad. Mae rhai arbenigwyr yn awgrymu bod y gosb gafodd yr Almaenwyr yn rhy llym a bod hynny wedi arwain yn y pen draw at dwf Natsïaeth a dechrau'r Ail Ryfel Byd.


Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y Rhyddfrydwyr yn blaid ranedig iawn. Yn Etholiad Cyffredinol 1922 enillodd adain draddodiadol y blaid 65 o seddi. Dim ond cyfanswm o 53 sedd enillodd y Rhyddfrydwyr a oedd wedi aros yn driw i Lloyd George a'r glymblaid.
Roedd hynny yn golygu bod y Cymro tanbaid wedi colli ei afael ar awenau grym unwaith ac am byth. Gwanhau wnaeth gobeithion gwleidyddol y Rhyddfrydwyr hefyd.


Roedd Lloyd George yn 80 oed pan briododd ei ysgrifenyddes, Frances Stevenson, yn 1943. Roedd y ddau wedi bod yn gariadon ymhell cyn hynny ac yn y cyfnod pan roedd Lloyd George yn Downing Street.


Er fod ei yrfa fel gweinidog wedi dirwyn i ben, roedd gallu areithio Lloyd George yn dal i fedru swyno Tŷ'r Cyffredin hyd y diwedd. Treuliodd gyfnod maith yn niwedd y 20au a'r 30au yn ysgrifennu ei atgofion am y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe gyhoeddodd 6 cyfrol i gyd. Mae 'na amcangyfrif ei fod wedi ennill o leiaf £65,000 o werthiant y cofiannau. Er bod hwnnw yn swm anferthol ar y pryd, mae'n gymharol fychan o'i gymharu â chofiannau Prif Weinidogion mwy diweddar.

Bydd Manon George, un o ddisgynyddion Lloyd George, yn dilyn hanes ei hen ewyrth mewn rhaglen ddofen arbennig ar S4C dros y 'Dolig.