Cyfnod mewn academi bêl-droed yn 'uffern ar y ddaear'
- Cyhoeddwyd
Mae pêl-droediwr yn ei arddegau o Abertawe, a ddisgrifiodd ei amser mewn academi bêl-droed yn Lloegr fel "uffern ar y ddaear", yn galw am well cefnogaeth i chwaraewyr ifanc.
Gadawodd Lewis Reed ei gartre yn 16 oed i chwarae yng Nghlwb Pêl-droed Ipswich Town.
Yn 19 erbyn hyn, mae'n dweud fod cyfnod o'r gêm oherwydd y pandemig wedi rhoi'r hyder iddo rannu ei brofiad yn gyhoeddus.
Dywedodd y clwb eu bod yn siomedig o glywed y sylwadau a'u bod wrthi'n trefnu cyfarfod gyda Mr Reed "i drafod yr holl bryderon y mae wedi'u codi".
Teimlo'n 'anweledig'
Dywedodd y chwaraewr canol cae ei fod, ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, wedi mynd o deimlo "mor uchel" i "mor isel" ymhen ychydig fisoedd.
Disgrifiodd deimlo'n "anweledig" i staff hyfforddi, ac wedi siomi nad oedd yn cael y cyfle i chwarae'n amlach.
Dywedodd Mr Reed ar ôl cael trafferth gyda "phoen eithafol" o ewin yn tyfu i'r byw (ingrowing toenail) y dywedwyd "man up" wrtho.
"Bob tro y ffoniodd fy rhieni roedden nhw'n meddwl mai efallai dyma'r tro olaf y bydden nhw'n siarad â mi," ychwanegodd.
Yn 16 oed dywedodd fod hunanladdiad ar ei feddwl felly aeth ei deulu i'r clwb am help.
Dywedodd ei fod wedi mynychu sesiwn gwnsela ond gwrthododd y cynnig o fwy gan nad oedd yn teimlo ei bod wedi helpu.
"Cefais fwy o gefnogaeth gan y gard diogelwch ar y gât... byddwn i'n cael sgwrs ag e am 30, 40 munud ac roeddwn i'n teimlo ei fod yn fwy cefnogol na rhai o hyfforddwyr y clwb."
Pan ddaeth ei gytundeb gyda'r clwb i ben yn ystod y pandemig y llynedd, mae'n dweud na chafodd unrhyw ohebiaeth gan y clwb.
"Rydyn ni'n 16, 17, 18 yn gadael ysgol yn syth i amgylchedd anodd. Dyma'r cyfan rydyn ni'n ei wybod, pêl-droed, pêl-droed a mwy o bêl-droed. Does dim arweiniad ar beth fydd y cam nesaf."
'Parod i ddysgu gwersi'
Mae Lewis Reed, sydd bellach yn gweithio dros dro ym musnes y teulu, yn galw am newid yn y system academi gyda mwy o gefnogaeth i chwaraewyr ifanc sydd oddi cartref, ac i'r rhai sy'n cael eu rhyddhau o'u cytundebau.
Dywedodd CPD Ipswich Town eu bod yn trefnu cyfarfod gydag Lewis Reed i drafod yr holl faterion y mae wedi'u codi.
"Mae ein Academi yn uchel ei pharch ac rydym wedi cael sicrwydd gan yr holl awdurdodau, gan gynnwys y PFA [yr undeb sy'n cynrychioli pêl-droedwyr proffesiynol], ein bod wedi bodloni a rhagori ar yr holl brotocolau sy'n ymwneud â lles chwaraewyr.
"Byddwn yn cyhoeddi datganiad llawer ehangach maes o law, ond os oes unrhyw wersi i'w dysgu o siarad â Lewis, yr ydym am eu derbyn."
Dywedodd y PFA eu bod wedi tristáu o glywed sylwadau Lewis Reed, gan ei gymeradwyo am drafod mor agored.
"Rydyn ni'n gwybod y gall gyrfa mewn pêl-droed fod yn heriol i bob chwaraewr a'u teuluoedd, ond yn enwedig chwaraewyr ifanc," medd yr undeb.
"Mae'r PFA wedi cysylltu â Lewis, a byddwn yn parhau i gynnig ein cefnogaeth lawn o ran darpariaethau lles ac addysg."
Ers rhannu ei brofiad ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Lewis Reed yn dweud ei fod wedi derbyn llif o negeseuon o gefnogaeth gan gefnogwyr, chwaraewyr presennol a phêl-droedwyr sydd wedi ymddeol.
Mae'n dweud ei fod yn "gwneud yn iawn", gyda chefnogaeth teulu a ffrindiau gartref, ac yn edrych ymlaen at ddechrau chwarae i'w glwb newydd, CPD Tref Llanelli, pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021