Nifer cleifion clwstwr Covid ysbyty'n gostwng i 39

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysbyty Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

39 oedd nifer y cleifion Covid-19 oedd yn cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd erbyn bore Mawrth

Mae nifer y cleifion sy'n cael triniaeth mewn cysylltiad â chlwstwr o achosion Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd, Bangor wedi gostwng i 39, yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Bron i wythnos yn ôl roedd 75 o gleifion yn cael triniaeth ar gyfer yr haint yn yr ysbyty, ac roedd 49 o'r rhain yn gysylltiedig â'r clwstwr.

Bu'n rhaid i'r ysbyty ohirio llawdriniaethau am bythefnos mewn ymateb i'r clwstwr, a bu'n rhaid i bedair ysgol gynradd leol gau dros dro ddyddiau ar ôl ailagor i ddisgyblion hyd at saith oed.

Dywed y bwrdd eu bod yn parhau i gymryd y camau priodol er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.

"Byddwn yn parhau i ymchwilio i bob achos a chymryd camau priodol i atal lledaeniad y feirws," meddai Cyfarwyddwr Nyrsio'r ysbyty, Mandy Jones.

"Mae pob claf ble mae amheuaeth neu gadarnhad eu bod â Covid-19 yn dal i gael gofal mewn wardiau penodol ac yn cael eu hynysu'n briodol."

Ychwanegodd bod tîm o arbenigwyr y bwrdd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Gwynedd yn cyfarfod yn ddyddiol i drafod y sefyllfa.

Mae'r arbenigwyr hyn "yn rhoi cyngor a sicrhau bod pob mesur rheoli mewn grym i leihau lledaeniad pellach," meddai Mandy Jones.

"Mae hyn yn cynnwys mesurau atal heintio addas a phrofi staff a chleifion yn rheolaidd.

"Rydym yn hyderus ein bod â'r mesurau yn eu lle i sicrhau na fydd y digwyddiad yma'n creu risg gynyddol sylweddol yng nghyfraddau achosion cymunedau lleol."

Mae'r bwrdd yn pwysleisio mai dim ond pobl ag apwyntiadau ddylai ymweld â ysbytai, a bod cyfyngiadau'n parhau o ran ymweld â chleifion, oni bai am amgylchiadau arbennig ble mae rheolwyr wedi rhoi caniatâd yn dilyn asesiad risg.