Arwydd am y tro cyntaf i bentref diarffordd yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Llansaint

Mae pentref diarffordd Llansaint yn Sir Gâr newydd gael arwydd yn nodi lle yn union mae'r llecyn.

Doedd dim arwydd ar y brif hewl rhwng Caerfyrddin a Llanelli - tan nawr.

'Nôl yn y bumed ganrif, cafodd y pentre ei ddatblygu o amgylch mynwent, ac yna'r eglwys.

Ond un ganrif ar bymtheg yn ddiweddarach, nid pawb sydd wedi llwyddo i gyrraedd strydoedd cul pentre Llansaint.

Un o drigolion y pentref, Dawn Afzal ddechreuodd yr ymgyrch i gael arwydd ffordd.

"Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ro'n i'n hebrwng cymydog 96 oed i'r ysbyty, ac fe ddywedodd hi wrtha'i, oni fydde hi'n braf pe bai gan Lansaint arwydd ar y brif hewl.

"Felly ar ôl byw yma am 32 o flynyddoedd, mi feddylies i y gallwn i wneud rhywbeth ynghylch hynny.

"Mi gysylltes â Chyngor Sir Gâr, a chware teg, mi wnaethon nhw ymateb yn gyflym," meddai Mrs Afzal.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dawn Afzal ddechreuodd yr ymgyrch i gael arwydd yn cyfeirio pobl at Lansaint

Yn ôl Arfon Davies, Cadeirydd Pwyllgor y Neuadd Les yn Llansaint, roedd y mater wedi bod yn destun tipyn o drafod ers sawl blwyddyn.

"Er tegwch haeddiannol i deulu'r Afzal yn y pentre, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers sawl mis - ry'n ni wedi cael yr arwydd.

"O'dd y pentre i gyd wedi eu cefnogi nhw, y cyngor cymuned hefyd.

"Mae e'n rhyw galondid i bobl yn yr amseroedd tywyll hyn nawr, i gael yr arwydd yma rhwng Caerfyrddin a Llanelli ar yr heol fawr."

Digon i'w gynnig

Mae Mr Davies yn cydnabod nad yw hi'n hawdd dod o hyd i'r pentre, sy'n fan geni'r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Gerald Davies.

"O'dd neb yn dod ar draws Llansaint ar ddamwain, ond wedi dweud hynny, ma' 'na ddigonedd o bethe i ddod â phobl i'r pentre.

"[Mae] digon o bethe'n digwydd gyda thafarn boblogaidd a'r neuadd gymunedol, ac oherwydd yr hanes, ma' digon o bethe i ddenu pobl i ymweld â'r pentre... os yden nhw'n gweld yr arwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Yr arwydd hir ddisgwyliedig yn ei holl ogoniant

I Rhiannon Roberts - a gafodd ei geni a'i magu yn y pentref - mae yna deimlad fod Llansaint wedi cael ei anwybyddu droeon.

"Mae e'n ddiarffordd, ma'n rhaid bo' chi'n mynd yna i ryw bwrpas, ond ma' pethe da yn gallu dod o fod yn guddiedig ambell waith!

"Ond pan o'n i'n tyfu lan ac yn chwilio am wybodaeth am Llansaint, o'dd dim llawer o wybodaeth ar gael a dweud y gwir.

"O'n i'n edrych ar lyfr fel Crwydro Sir Gâr gan Aneurin Talfan Davies - dim sôn o gwbl am Lansaint!

"Ac eto i gyd, roedd e'n sôn am rai llefydd llawer llai na Llansaint. A mae e'n bentref hynafol..."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiannon Roberts wedi ei geni a'i magu yn y pentref

Ac nid ymwelwyr o bell yn unig sydd erioed wedi troedio strydoedd hynafol Llansaint.

"Mae'n syndod faint o bobl o Gar sydd heb fod yn y pentre o gwbl," meddai Rhiannon Roberts.

"A bydden i'n awgrymu iddyn nhw fynd pan ddaw pethe'n well arnon ni a bydd modd i ni deithio.

"Achos o'n cartre' ni yn y pentre, bydden i'n edrych draw ar Fro Gŵyr, bydden i'n edrych syth ymlaen am Ynys Gwair neu Lundy ac wedyn edrych draw i'r dde ar Ynys Byr, heb anghofio Castell Cydweli islaw."

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol