Capel 151 oed yn cael côd post am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae capel yng Ngwynedd wedi cael cydnabyddiaeth ei fod yn bodoli yn swyddogol - a hynny 151 mlynedd ar ôl ei sefydlu.
Fel sawl capel ac eglwys arall, doedd gan Capel Siloh yn Chwilog, ger Pwllheli, ddim côd post swyddogol.
Daeth y broblem i'r amlwg pan geisiodd y capel annibynwyr osod llinell ffôn a chysylltiad rhyngrwyd er mwyn gallu darlledu oedfaon a chyfarfodydd yn ystod cyfyngiadau Covid-19.
Pan gysyllton nhw gyda chwmni BT, fe gawson nhw wybod nad oedd eu cyfeiriad yn bodoli ar y system ac y byddai'n rhaid cael côd post swyddogol cyn gwneud unrhyw archeb.
Y Post Brenhinol sy'n gyfrifol am weinyddu codau post yn swyddogol felly roedd angen gwneud cais drwyddyn nhw - proses a gymerodd rhai misoedd i'w chwblhau.
'Roedd rhaid cael blwch post'
Dywedodd gweinidog Capel Siloh, y Parchedig Aled Davies: "Roeddan ni wedi cychwyn darlledu oedfaon dros Zoom o'r tŷ ac yn edrych tu hwnt i hynny a gweld bod angen cario'r peth ymlaen.
"Ar ôl cael gwybod gan BT nad oedd 'na gôd post i ni, mi aethon ni at y Post Brenhinol. Fuodd rhaid i ni gael blwch postio wedi'i osod a thynnu ei lun i brofi bod o yno.
"Mi ddywedon nhw y byddai'n cymryd amser oherwydd bod o'n adeilad newydd.
"Ond mi dynnais lun y capel, efo 1869 yn glir ar ei flaen, gan ddweud ein bod wedi bod yn disgwyl ers 151 o flynyddoedd am ateb!
"Erbyn y diwrnod wedyn, roedd rhywun wedi ticio rhyw focs ac mae'r côd post yno erbyn hyn."
Mae'r pandemig wedi amlygu sefyllfaoedd fel hyn ac nid Capel Siloh ydy'r cyntaf i orfod delio gyda'r broblem.
"Heb os mae 'na gapeli ac eglwysi ar draws Cymru sydd yn yr un sefyllfa dwi'n siŵr, fel mae 'na ambell i adeilad cymunedol fel neuadd ac yn y blaen, sydd erioed wedi cofrestru, erioed wedi bod angen derbyn llythyron," ychwanegodd.
"Dyma'r trydydd tro i mi wneud dros y blynyddoedd diwetha'. 'Da ni wedi gosod y we yng nghapel Pencaenewydd ac yn y neuadd yn Chwilog hefyd drwy ddilyn yr un broses."
Cynnydd mewn ymholiadau tebyg
Mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn i'r Post Brenhinol am sylw ar y mater ond does dim ymateb wedi bod hyd yma.
Dywedodd cangen fusnes BT eu bod "wedi gweld rhywfaint o gynnydd yn nifer yr ymholiadau gan eglwysi, capeli ac addoldai eraill yn edrych i gael cysylltiad band eang" a'u bod "wedi llwyddo i gynnig gwasanaeth i sawl adeilad drwy 'BT Local Business' yn ystod y cyfnod".
Fe ychwanegodd llefarydd eu bod yn "hapus i helpu unrhyw addoldy neu ganolfan debyg sy'n cael trafferth gyda'u cyfeiriad neu o ran lleoliad yr adeilad".
Yn y cyfamser, mae'r Parchedig Davies yn credu ei bod yn hollbwysig bod sefydliadau fel capeli yn gallu cael cysylltiad i'r we, yn enwedig yn sgil y pandemig.
Mae'r niferoedd sy'n rhan o oedfa Siloh wedi dyblu yn ystod y cyfnod am bod pobl yn ei gweld yn hwylus gallu ymuno o'u cartrefi.
"Mae'n ymrwymiad dod i'r capel, wedi gwisgo a theithio, mae'n fore cyfan efallai. Ond mae gan bobl hanner awr i neidio mewn ar Zoom," meddai.
"Roeddwn i'n poeni ar y cychwyn y gallai'r peth fod yn amhersonol, ond mae pobl wrth eu bodd yn cael codi llaw a dweud helo wrth ei gilydd ar y sgrin.
"Tra yn y capel roedd pobl yn tueddu i edrych yn syth o'u blaen a chadw rhyw ddistawrwydd rhyfedd, felly mae 'na ryw elfennau annisgwyl wedi codi o'r holl beth rhywsut."
Y bwriad rŵan ydy cysylltu gyda BT er mwyn gosod llinell ffôn a chysylltiad rhyngrwyd, gan obeithio bydd y cyfan wedi'i wneud yn yr wythnosau nesa'.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020