Y Bencampwriaeth: Huddersfield 0-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
h v CFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Gêm gyfartal gafodd Caerdydd oddi cartref nos Wener yn erbyn Huddersfield.

Roedd yr Adar Gleision yn llawn hyder wedi buddugoliaeth mewn deg gêm ers i Mick McCarthy gael ei benodi'n rheolwr.

Roedd yr hanner cyntaf yn ddigon cyfartal ac er fod Caerdydd wedi cael sawl cyfle, di-sgôr oedd hi ar ôl 45 munud.

Fe geisio McCarthy newid pethau gyda Sheyi Ojo yn cymryd lle Josh Murphy ar ôl prin awr ond wnaeth hynny fawr o wahaniaeth.

Roedd hi'n edrych yn ddrwg ar Gaerdydd gyda deg munud yn weddill wedi i Curtis Nelson faglu Aaron Rowe yn y blwch cosb - cic o'r smotyn felly ond gyrrodd Yaya Sanogo y bêl ymhell dros y bar er rhyddhad i gefnogwyr Caerdydd.

Daeth cyfleoedd i Huddersfield wrth i Pipa ymosod, ond gwnaeth Phillips arbediad da i'r Adar Gleision ac yna aeth ergyd rymus Fraizer Campbell dros y bar.

Daeth y gêm i ben yn gyfartal heb sgôr a Chaerdydd felly yn codi i'r seithfed safle yn y Bencampwriaeth.