Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-1 Middlesbrough

  • Cyhoeddwyd
André AyewFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd André Ayew o'r smotyn yn yr eiliadau olaf i selio'r triphwynt i'r Elyrch

Mae Abertawe wedi codi i'r trydydd safle yn y Bencampwriaeth yn dilyn diweddglo dramatig yn erbyn Middlesbrough yn Stadiwm Liberty.

Aeth yr Elyrch ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gydag André Ayew yn sgorio wedi i amddiffyn yr ymwelwyr fethu â chlirio'r bêl yn dilyn croesiad i'r cwrt cosbi.

Roedd hi'n edrych fel pe bai Abertawe yn llwyddo i ddal eu gafael yn y pwyntiau cyn i Sam Morsy sgorio gydag ergyd o ymyl y cwrt cosbi yn y munudau olaf i'w gwneud yn gyfartal.

Ond wedi 97 munud o chwarae daeth rhagor o ddrama, wrth i Ayew rwydo o'r smotyn yn dilyn trosedd George Saville ar Jake Bidwell.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn codi i'r trydydd safle yn y tabl, ac yn sefydlogi eu lle yn safleoedd y gemau ail gyfle.

Dim ond un pwynt y tu ôl i Watford yn yr ail safle mae'r Elyrch, ac mae ganddyn nhw ddwy gêm ychwanegol i'w chwarae o'i gymharu â'r timau ar y brig.