Toriadau trydan wrth i wyntoedd cryfion daro Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 3,000 o gartrefi wedi bod heb drydan ac mae nifer o ffyrdd ar gau wedi i wyntoedd cryfion a glaw trwm daro Cymru dros nos.
Cafodd gwyntoedd o 84mya eu cofnodi yn Aberdaron bore Iau, ac 81mya ym Mhen y Mwmbwls.
Mae'r awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio i ailagor rhai ffyrdd sydd wedi bod ar gau am eu bod dan ddŵr, neu wedi i goed syrthio ar eu traws.
Mae'r rhybudd tywydd melyn am wyntoedd cryfion oedd mewn grym ar draws Cymru a Lloegr tan 15:00 ddydd Iau bellach wedi'i godi.
Toriadau trydan
Dywedodd Western Power Distribution nos Fercher bod cannoedd o dai yn ardaloedd Castellnewydd Emlyn, Tyddewi, Abertawe a Chwmbach yn Rhondda Cynon Taf wedi bod heb gyflenwad trydan.
Yn ôl y cwmni, sy'n gwasanaethu de a gorllewin Cymru, roedd 2,907 o eiddo heb drydan yn gynnar bore Iau ond mae cyflenwadau wedi eu hadfer yn achos llawer.
Erbyn 07:00 1,651 o gwsmeriaid oedd heb drydan, gan gynnwys 233 ym Mhont-iets a 72 ym Mhorth Tywyn yn Sir Gâr.
Roedd hefyd toriadau trydan yn Sili ym Mro Morgannwg, Bedwas yn Sir Caerffili, ac Aberllynfi a Chrughywel ym Mhowys.
Dywedodd SP Energy, sy'n gwasanaethu'r gogledd a rhannau o'r canolbarth, bod adroddiadau o doriadau i i gyflenwadau yn Llanbrynmair a Phenffordd-las ym Mhowys, a Llanbedr yng Ngwynedd.
Maen nhw hefyd yn ymateb i amhariadau ym Mhenrhyn Llŷn, ac yn Llanerchymedd a Bodedern yn Ynys Môn.
Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd Liam O'Sullivan, sy'n gyfrifol am wasanaeth y cwmni yng ngogledd Cymru, bod swyddogion wedi bod yn gweithio drwy'r nos i adfer cyflenwadau.
"Rydym wedi adfer [cyflenwadau] 1,500 o gwsmeriaid hyd yma ac mae 1,000 yn dal heb gyflenwadau," meddai.
Dywedodd mai'r bwriad yw adfer yr holl gyflenwadau hynny yn ystod y dydd "yn dibynnu ar yr angen i'r gwyntoedd gostegu".
Ffyrdd ar gau
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r A499 rhwng Pwllheli a Phenrhos dan ddŵr gan wneud hi'n amhosib i gerbydau deithio yno, ac mae rhybudd llifogydd mewn grym gyda'r disgwyl y bydd lefelau Afon Rhyd Hir yn codi dros yr oriau nesaf.
Yn Sir Wrecsam, bu'n rhaid cau'r A5 rhwng cylchdro Gledrid a chylchdro Halton am gyfnod.
Mae ffordd yr A483 hefyd wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad yn Ffairfach ger Llandeilo.
Mae'r M48 Pont Hafren a Phont Cleddau yn Sir Benfro ar gau, ac mae cyfyngiadau i gerbydau trwm a cherbydau mawr ar Bont Britannia rhwng Ynys Môn a'r tir mawr.
Dywedodd Heddlu Gwent bod Ffordd Pont-y-Felin yn New Inn, Torfaen a'r A472 yn Llanbadog, ger Gwesty Glen Yr Afon ym Mrynbuga ar gau wedi i goed cwympo.
Rhybuddiodd Heddlu Dyfed-Powys bod sawl coeden wedi syrthio, gan gynnwys un ar draws yr A40 yn Sir Gâr, i'r gogledd o Lanymddyfri ger Erw Lon.